Machu Picchu
Oddi ar Wicipedia
Machu Picchu (o'r Quechua deheuol machu pikchu, "Hen Fynydd") yw'r enw a roddir heddiw i dref yn yr Andes yn ne Periw. Adeiladwyd y rhan fwyaf ohoni gan yr Inca yn y 15fed ganrif. Credir mai ei henw gwreiddiol oedd Picchu neu Picho.