Andes

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Yr Andes)
Neidio i: llywio, chwilio
Cono de Arita, Salta (Yr Ariannin)

Mae'r Andes yn fynyddoedd sy'n ymestyn ar hyd ochr orllewinol De America o Feneswela hyd Patagonia, ac yn rhan nodweddiadol o dirlun gwledydd Ariannin, Bolifia, Chile, Colombia, Ecwador, Periw a Feneswela. Yn rhan ddeheuol yr Andes, y mynyddoedd hyn yw'r ffin rhwng Ariannin a Chile. Ymhellach i'r gogledd mae'r Andes yn lletach, ac yn cynnwys tir uchel gwastad yr Altiplano, sy'n cael ei rannu rhwng Perú, Bolifia a Chile. Credir fod y gair andes yn dod o'r gair Quechua anti, sy'n golygu "crib uchel".

Oherwydd bod yr Andes yn uchel ac yn ymestyn am gymaint o bellter o'r de i' gogledd, mae amrywiaeth mawr o dywydd ac o blanhigion, o goedwigoedd glaw llethrau'r rhan ogleddol hyd anialwch o rew ac eira. Ymhlith anifeiliaid nodweddiadiol yr Andes mae'r condor, y piwma, y llama a'i berthynas yr alpaca. Yn rhan ogleddol yr Andes y datblygodd ymerodraeth yr Inca yn y bymthegfed ganrif, a gellir gweld llawer o adeiladau o'r cyfnod hwn. Mae'r bobl frodorol wedi dal eu tir yn well yn yr Andes nag yn y rhan fwyaf o gyfandir America; er enghraifft yn yr Andes yn Periw lle mae canran uchel o'r boblogaeth heddiw yn frodorion. Y prif ieithoedd a siaredir yn yr Andes (heblaw Sbaeneg) yw Quechua ac Aymara. Tyfir cnydau yn uchel ar y llethrau yn rhan ogleddol yr Andes. Y prif gnydau yw tybaco, coffi a chotwm, ac mae tatws, sy'n dod o'r Andes yn wreiddiol, yn arbennig o bwysig. Mae coca hefyd yn bwysig, ac mae llawer o drigolion yr Andes yn arfer cnoi dail coca neu'n rhoi dŵr porth arnynt i wneud math o dê.

Mae mynyddoedd uchaf yr Andes ar y ffin ogleddol rhwng Chile ac Ariannin, yna'r Cordillera Blanca yn Periw. Y mynydd uchaf yw Aconcagua yn Ariannin, sydd 6,959 m uwchlaw lefel y môr - y mynydd uchaf ar gyfandir America.

Llosgfynydd Chimborazo, Ecwador

Mae llosgfynyddoedd eraill yr Andes yn cynnwys: