Cochabamba
Oddi ar Wicipedia
Dinas yng nghanolbarth Bolifia yw Cochabamba. Saif yn nyffryn Cochabanba yn yr Andes, a hi yw prifddinas departement Cochabamba. Gyda phoblogaeth o dros 800,000, hi yw trydydd neu bedwerydd dinas Bolifia.
Sefydlwyd y ddinas ar 2 Awst 1571 gan y llywodraethwr Sbaenaidd Francisco de Toledo. Ceir marchnad awyr agored fwyaf De America, La Cancha, yma.