Sucre
Oddi ar Wicipedia
| Sucre | |
|---|---|
| Lleoliad Talaith Oropeza | |
| Gwlad | Bolifia |
| Ardal | Talaith Oropeza, Departamento Chuquisaca |
| Llywodraeth | |
| Maer | Verónica Berrios Vergara[1] |
| Daearyddiaeth | |
| Uchder | 2,750 m |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 214,913[2] (Cyfrifiad 2001) |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Gwefan | Llywodraeth fwrdeistrefol |
Prifddinas swyddogol Bolifia yn ôl y cyfansoddiad yw Sucre. Fe'i lleolir yn ne canolbarth y wlad yn nhalaith Oropeza, rhan o departamento Chuquisaca. Mae ganddi boblogaeth o tua 284,032 (amcangyfrif 2010).[2]
Sefydlwyd y ddinas ym 1538 o dan yr enw Ciudad de la Plata de la Nueva Toledo. Daeth hi'n brifddinas Bolifia ym 1839 a chafodd ei hailenwi ar ôl yr arweinydd chwyldroadol Antonio José de Sucre. Symudodd llywodraeth y wlad i La Paz ym 1898 ond mae'r Uchel Lys yn dal yn Sucre.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ La Alcaldesa. Adalwyd ar 20 Awst 2010.
- ↑ 2.0 2.1 Instituto Nacional de Estadística. Adalwyd ar 20 Awst 2010.