Aderyn y si
Oddi ar Wicipedia
| Aderyn y si | |
|---|---|
| Aderyn y si genddu benywol | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Is-ddosbarth: | |
| Inffradosbarth: | |
| Ddim wedi'i restru: | Cypselomorphae |
| Urdd: | Apodiformes |
| Teulu: | Trochilidae Vigors, 1825 |
| Isdeuluoedd | |
Aderyn o'r teulu Trochilidae yw aderyn y si neu si-edn (lluosog: si-ednod).[1] Maent yn fach iawn, gan amlaf 7.5–13 cm o hyd. Y rhywogaeth lleiaf yn nosbarth yr adar yw aderyn y si gwenyn, sy'n 5 cm. Mae adar y si yn sefyll ar y gwynt trwy guro'u hadenydd 12 i 80 waith yr eiliad. Maent hefyd yn yr unig grŵp o adar sy'n medru hedfan tuag yn ôl.[2] Gallent hedfan dros 15 m yr eiliad (54 km yr awr).[3]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 699 [hummingbird].
- ↑ Ridgely, Robert S.; a Paul G. Greenfield. The Birds of Ecuador, cyfrol 2, Field Guide, Cornell University Press, 2001
- ↑ Clark a Dudley (2009). "Flight costs of long, sexually selected tails in hummingbirds". Proceedings of the Royal Society of London, Mawrth 2009.
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: