Ucheldiroedd Guiana
Rhanbarth daearyddol a nodwedd ddaearegol yn Ne America yw Ucheldiroedd Guiana neu Tarian Guiana (Sbaeneg: Guayana). Fe'i lleolir yng ngogledd-ddwyrain y cyfandir, ar lan y Caribî deheuol.
Enw arall am y rhanbarth yw 'Guiana' neu 'Y Guianas', am ei fod yn cynnwys tair gwlad o'r enw Guiana, sef Guyana ('Guyana Brydeinig' cyn annibyniaeth), Guyane (neu 'Guiana Ffrengig') a Suriname ('Guiana Iseldiraidd' cyn annibyniaeth). Mae'n cynnwys hefyd ran o ogledd Brasil ('Guyana Bortiwgalaidd' cynt) darnau o Venezuela a Colombia.
Mae gan yr ucheldiroedd ecoleg a daeareg unigryw. Mae'r darian yn dalp anferth o graig gyn-Gambriaidd a ffurfwyd tua 1.7 bilwn o flynyddoedd yn ôl. Mae'n cynnwys Mynydd Roraima, testun sawl chwedl am "Fyd Coll", a Rhaeadrau Angel.
Gwledydd [golygu]
| Gwlad, efo baner |
Arwynebedd (km²) |
Poblogaeth (2005) |
Dwysedd poblogaeth (per km²) |
Prifddinas |
|---|---|---|---|---|
| 214,970 | 765,283 | 3.6 | Georgetown | |
| 91,000 | 195,506 | 2.1 | Cayenne | |
| 163,270 | 438,144 | 2.7 | Paramaribo |