Afon Var

Oddi ar Wicipedia
Afon Var
Mathy brif ffrwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau44.2383°N 6.7517°E, 43.6542°N 7.2°E Edit this on Wikidata
TarddiadEntraunes Edit this on Wikidata
AberY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
LlednentyddVésubie, Estéron, Cians, Tinée, Coulomp, Roudoule, Tuébi, Chalvagne Edit this on Wikidata
Dalgylch2,820 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd114 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad49.4 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map
Afon Var ger Pont de Gueydan.

Afon yn ne-ddwyrain Ffrainc yw Afon Var. Mae'n tarddu yn yr Alpau Morol yn Alpes-Maritimes ac yn llifo trwy'r département hwnnw, ac eithrio tua 15 km/10milltir yn département Alpes-de-Haute-Provence, i aberu yn y Môr Canoldir. Ei hyd yw 114 km.

Mae Afon Var yn unigryw yn Ffrainc am fod département - sef Var - yn cael ei henwi ar ei hôl ac eto nid yw'r afon ei hun yn llifo trwy'r département hwnnw.

Mae'n tarddu 1,800 metr i fyny ger bwlch mynydd y Col de la Cayolle (2,326 metr/7,631 troedfedd) yn yr Alpau Morol ac yn llifo ar gwrs i gyfeiriad y de-ddwyrain am 114 cilometr (71 milltir) i gyrraedd y Môr Canoldir rhwng Nice a Saint-Laurent-du-Var.

Ceir sawl ceunant ar gwrs yr afon yn ei rhannau uchaf a groesir gan bontydd uchel. Mae canŵio dŵr gwyn yn boblogaidd yn y ceunentydd hyn.

Lleoedd ar ei glan[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.