Giuseppe Garibaldi
Arweinydd milwrol a gwleidyddol Eidalaidd oedd Giuseppe Garibaldi (4 Gorffennaf, 1807 – 2 Mehefin, 1882).
Ganed Garibaldi yn ninas Nice yn Ffrainc. Daeth yn gymwysedig fel capten llong yn 1832. Y flwyddyn wedyn, hwyliodd i Taganrog, Rwsia, lle cyfarfu a Giovanni Battista Cuneo, alltud o'r Eidal ac aelod o fudiad La Giovine Italia ("Yr Eidal Ieuanc"), oedd wedi ei sefydlu gan Giuseppe Mazzini i geisio uno'r Eidal a'i rhyddhau o reolaeth Awstria. Yn Genefa yn ddiweddarach yn 1833, cyfarfu a Mazzini ei hun. Ymunodd Garibaldi a'r Carbonari, ac yn Chwefror 1834 Montevideo, Uruguay, yn 1841, lle priododd ei wraig, Anita. Cymerodd ran amlwg yn Rhyfel Cartref Uruguay, gan ffurfio lleng o Eidalwyr ac ennill nifer o fuddugoliaethau.
Dychwelodd i'r Eidal yn 1848, a chymerodd ran amlwg yn yr ymladd yno. Gorchfygodd fyddin Ffrengig lawer mwy ar 30 Ebrill 1849, ond yn ddiweddarach y flwyddyn honno bu raid iddo ffoi i San Marino. Bu yn Ninas Efrog Newydd am gyfnod. Dychwelodd i'r Eidal yn 1854, ac enillodd nifer o fuddugoliaethau dros yr Awstriaid. Bu ganddo ran amlwg yn y brwydrau a arweiniodd at uno'r Eidal.