Giuseppe Mazzini

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Giuseppe Mazzini
Penddelw o Giuseppe Mazzini yng 'Ngerddi Ioan Pawl II', yn Cremona, yr Eidal.

Arweinydd gwleidyddol a gwladgarwr Eidalaidd oedd Giuseppe Mazzini (22 Mehefin, 1805 - 10 Mawrth, 1872). Bu ganddo ran bwysig yn y Risorgimento a arweiniodd at uno'r Eidal.

Bywgraffiad[golygu]

Ganed Mazzini yn Genoa, a oedd yr adeg honno yn rhan o Weriniaeth Ligwria a than reolaeth ymerodraeth Ffrainc. Roedd yn dad, Giacomo, yn Brifathro yn y Brifysgol. Aeth Giuseppe ei hun i'r brifysgol pan nad oedd ond 15 oed, a graddiodd yn y gyfraith yn 1826.

Yn 1830, teithiodd i Twscani, lle daeth yn aelod o fudiad y Carbonari. Carcharwyd ef yn Savona yr un flwyddyn. Wedi ei ryddhau, symudodd i ddinas Genefa yn y Swistir, yna yn 1831 i Marseille. Yno, ffurfiodd gymdeithas newydd, La giovine Italia ("Yr Eidal Ieuanc"), oedd yn anelu at uno gwladwriaethau'r Eidal yn un wlad.

Yn 1833 cynlluniwyd gwrthryfel, ond darganfuwyd y cynllun gan lywodraeth Savoia. Dienyddiwyd 12 o bobl, a chondemniwyd Mazzini i farwolaeth yn ei absenoldeb. Symudodd i Baris, yna i Lundain yn 1837. Gwnaed nifer o ymdrechion eraill i drefnu gwrthryfel. Ym 1848 aeth i Milan, lle roedd y boblogaeth wedi gwrthryfela yn erbyn y garsiwn Awstriaidd. Dechreuodd Rhyfel Annibyniaeth Cyntaf yr Eidal, ond bu'n fethiant. Ymunodd Mazzini â byddin Giuseppe Garibaldi, ac aeth i'r Swistir gyda Garibaldi. Ar 9 Chwefror 1849, cyhoeddwyd Gweriniaeth Rhufain, a gorfodwyd Pab Pius IX i ffoi iGaeta. Daeth Mazzini i Rufain, lle daeth yn arweinydd y llywodraeth newydd, ond ychydig fisoedd yn ddiweddarach, wedi i fyddin Ffrainc gefnogi'r Pab, bu raid iddo ddychwelyd i'r Swistir.

Ceisiodd drefnu nifer o wrthryfeloedd yn y blynyddoedd nesaf, ond heb lawer o lwyddiant. Bu farw yn Pisa yn 1872, a chladdwyd ef yn Genoa, gyda 100,000 o bobl yn yr angladd.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • D. J. Williams, Mazzini (1954). Astudiaeth o safbwynt cenedlaetholdeb Cymreig.

Cyfeiriadau[golygu]