Mohammédia
Oddi ar Wicipedia
Dinas a phorthladd ym Moroco yw Mohammédia (hen enw: Fedhala) (Arabeg: المحمدية), a leolir 15 milltir i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Casablanca ar lan Cefnfor Iwerydd yng ngorllewin y wlad. Mae'n rhan o ranbarth Grand Casablanca. Poblogaeth: 188,619 (2004).
Enw gwreiddiol y ddinas oedd Fedala, ond cafodd ei hailenwi y 1959 er anrhydedd y Brenin Mohammed V o Foroco. O'r 14eg hyd at y 19eg ganrif, bu'n man cyfarfod masnachwyr Ewropoeaidd a Morocaidd. Pan gipwyd Moroco gan Ffrainc dechreuwyd adeiladau porthladd modern yno, yn 1913. Erbyn heddiw, mae'r ddinas yn borthladd, yn ganolfan diwydiant cynhyrchu ac yn gyrchfan gwyliau glan môr.
Dolenni allanol [golygu]
- (Ffrangeg) Hanes Mohammédia