Mohammed V, brenin Moroco

Oddi ar Wicipedia
Mohammed V, brenin Moroco
Ganwyd10 Awst 1909 Edit this on Wikidata
Fès Edit this on Wikidata
Bu farw26 Chwefror 1961 Edit this on Wikidata
Rabat Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMoroco Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddsultan of Morocco, sultan of Morocco, brenin Moroco Edit this on Wikidata
TadYusef of Morocco Edit this on Wikidata
PriodLalla Abla bint Tahar, Lalla Bahia Edit this on Wikidata
PlantHassan II, brenin Moroco, Lalla Fatima Zohra, Y Dywysoges Lalla Aicha o Foroco, Prince Moulay Abdallah of Morocco, Lalla Amina of Morocco, Y Dywysoges Lalla Malika o Foroco, Y Dywysoges Lalla Nuzha o Foroco Edit this on Wikidata
PerthnasauMohammed VI, brenin Moroco, Ahmed Osman, Prince Moulay Hicham of Morocco, Prince Moulay Ismail of Morocco, Lalla Latifa, Moulay Ali Alaoui, Lalla Joumala Alaoui, Moulay Abdallah ben Ali Alaoui, Moulay Youssef Alaoui, Prince Moulay Rachid of Morocco, Princess Lalla Hasnaa of Morocco, Princess Lalla Asma of Morocco, Princess Lalla Meryem of Morocco Edit this on Wikidata
Llinach'Alawi dynasty Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Groes y Lleng Anrhydedd, Cymrawd y 'Liberation', Prif Gadlywydd Lleng Teilyngdod, Urdd Teilyngdod, Grand Collar of the Order of the Nile, Order of al-Hussein bin Ali, Urdd Umayyad, Urdd Abdulaziz al Saud, Grand Cordon of the order of Nichan Iftikhar, Coler Urdd Siarl III, The honorary doctor of Lebanese University, Imperial Order of the Yoke and Arrows Edit this on Wikidata
Mohammed V ar ymweliad â'r Unol Daleithiau yn 1957

Rheolwr Moroco oedd Mohammed V (10 Awst 190926 Chwefror 1961) (Arabeg: محمد الخامس‎), a deyrnasodd fel Swltan Moroco o 1927 hyd 1953, a gafodd ei alltudio yn 1953 ac a deyrnasodd eto yn gyntaf fel Swltan (1955-1957) ac wedyn fel brenin (1957-1961). Ei enw llawn oedd Sidi Mohammed ben Yusef, sef mab (ben) y Swltan Yusef, a olynodd fel Swltan ar ôl ei farwolaeth yn 1927. Roedd yn aelod o Freninllin yr Alaouitiaid.

Ar 20 Awst, 1953, gorfododd yr awdurdodau gwladfaol Ffengig y Swltan Mohammed V a'i deulu i adael Moroco am alltudiaeth ar ynys Corsica. Rhoddwyd perthynas iddo, Mohammed Ben Aarafa, ar yr orsedd yn ei le. Y rheswm am hynny oedd fod y Morocwyr yn gweld Mohammed V fel arweinydd yn y frwydr dros annibyniaeth i'r wlad.

Trosglwyddwyd Mohammed V a'i deulu i ynys Madagasgar, un arall o wladfeydd Ffrainc ar y pryd, yn Ionawr 1954. Dychwelodd Mohammed V o alltudiaeth ar 16 Tachwedd, 1955, a chafodd ei gydnabod fel Swltan unwaith yn rhagor, er ei fod yn wrthynebus i reolaeth Ffrainc. Yn Chwefror 1956 llwydodd i gael annibyniaeth i Foroco mewn trafodaethau gyda llywodraeth Ffrainc ac yn 1957 cymerodd y teitl Brenin Moroco.

Bu farw ar 26 Chwefror 1961, ar ôl derbyn llawfeddygaeth, ac fe'i olynwyd gan ei fab Hassan II.

Enwir dinas Mohammédia, ger Casablanca, ar ei ôl, er anrhydedd iddo.