Mohammed VI, brenin Moroco
Brenin Moroco yw Mohammed VI (Arabeg: محمد السادس) (ganed 21 Awst 1963, Rabat). Olynodd ei thad Hassan II i'r orsedd ar y 23ain o Orffennaf 1999.
Ar ôl cael addysg Coranaidd draddodiadol yn blentyn, aeth ymlaen i astudio am ei fagloriaeth ac enilodd radd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Mohammed V, Rabat. Yn 1993, derbyniodd PhD gan Brifysgol Nice Sophia Antipolis yn Ffrainc am ei draethawd ar berthynas y Maghreb a'r Undeb Ewropeaidd.
Mae'n cael ei weld fel brenin blaengar gan y mwyafrif o sylwebyddion, yn enwedig mewn cymhariaeth â'i dad, Hassan II, a feirniadwyd am ei bolisïau ceidwadol a'i record ar hawliau dynol ym Moroco. Mae wedi gweithio i wella safle swyddogol a chyfreithiol merched yn y gymdeithas. Y peth cyntaf a wnaeth ar ôl esgyn i'r orsedd oedd darlledu neges ar y teledu yn addo gwella hawliau dynol ac ymestyn democratiaeth yn y wlad. Sefydlodd Gomisiwn i adrodd ar y sefyllfa hawliau dynol dan Hassan II ond cyfyngwyd ei waith i'r cyfnod cyn 1999 a gwaharddwyd sôn am Hassan II wrth ei enw: digiodd hynny nifer o ymgyrchwyr dros hawliau dynol y tu mewn a'r tu allan i'r wlad.
Er ei fod yn frenin mwy blaengar a chosmopolitaidd na'i dad, mae'n dal i fwynhau sefyllfa lled-awtocratig fel brenin Moroco. Mae wedi bod yn gefnogol ar y cyfan i bolisïau'r Unol Daleithiau a'i cynghreiriad gorllewinol, yn gyffredinol, ac mae hynny wedi digio gwrthwynebwyr ceidwadol Islamig a phleidwyr system mwy democrataidd fel ei gilydd.
Dolenni allanol [golygu]
- Gwefan swyddogol
- (Saesneg) "King Mohammed VI Grants Exclusive First-ever Interview to Time"
- (Saesneg) John Laurenson: "The most powerful man in Morocco", BBC News, 11 Mawrth 2006.
| Rhagflaenydd: Hassan II |
Brenin Moroco 23 Gorffennaf 1999 – |
Olynydd: delliad |