Gent
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn Fflandrys yng ngogledd Gwlad Belg yw Gent (Iseldireg: Gent; Ffrangeg: Gand). Prifddinas talaith Dwyrain Fflandrys ac arondissement Gent yw hi. Saif ar y man lle mae'r afonydd Schelde a Lys yn ymuno â'i gilydd. Yn yr Oesoedd Canol daeth yn ddinas fasnachol gyfoethog. Er na ddatblygodd fel canolfan ddiwydiannol, mae'n borthladd o bwys o hyd ac yn gartref i un o brifysgolion mwyaf Fflandrys. Mae ganddi boblogaeth o 233,120 (2006).
[golygu] Adeiladau a chofadeiladau
- Boekentoren (adeilad prifysgol)
- Eglwys Gadeiriol Sant Bavo
- Eglwys Sant Niclas
- Museum voor Schone Kunsten (amgueddfa)
[golygu] Enwogion
- Jan van Eyck (c. 1385-1441), arlunydd
- Maurice Maeterlinck (1862-1949), awdur
- Helmut Lotti (g. 1969), canwr