Dwyrain Fflandrys
Oddi ar Wicipedia
Un o ddeg talaith Gwlad Belg yw talaith Dwyrain Fflandrys (Iseldireg: Oost-Vlaanderen). Saif yn rhanbarth Fflandrys yng ngogledd y wlad, ac mae'n ffinio ar yr Iseldiroedd yn y gogledd. Y brifddinas yw Ghent, sydd ar Afon Schelde.
Mae gan y dalaith arwynebedd o 2,991 km² a phoblogaeth o 1,389,199. Fel yn holl daleithiau Fflandrys, Iseldireg yw'r unig iaith swyddogol.
| Taleithiau Gwlad Belg | |
|---|---|
| Fflandrys: Antwerp | Dwyrain Fflandrys | Brabant Fflandrysaidd | Limburg | Gorllewin Fflandrys | |
| Walonia: Brabant Walonaidd | Hainaut | Liège | Luxembourg | Namur | |
| Rhanbarth Brwsel-Prifddinas | |