Brabant Fflandrysaidd
Oddi ar Wicipedia
Un o ddeg talaith Gwlad Belg yw Brabant Fflandrysaidd (Iseldireg: Vlaams-Brabant). Mae'n ffurfio rhan o ranbarth Fflandrys. Y brifddinas yw Leuven, ac mae'r dinasoedd eraill yn cynnwys Vilvoorde, Halle, Tienen, Diest ac Aarschot.
Ffurfiwyd y dalaith trwy rannu hen dalaith Brabant ar hyd y ffîn ieithyddol, i ffurfio Brabant Fflandrysaidd, Brabant Walonaidd ac Ardal y Brifddinas-Brwsel. Mae Ardal y Brifddinas-Brwsel wedi ei hangylchynu gan dalaith Brabant Fflandrysaidd. Iseldireg yw'r unig iaith swyddogol yn Brabant Fflandrysaidd.
| Taleithiau Gwlad Belg | |
|---|---|
| Fflandrys: Antwerp | Dwyrain Fflandrys | Brabant Fflandrysaidd | Limburg | Gorllewin Fflandrys | |
| Walonia: Brabant Walonaidd | Hainaut | Liège | Luxembourg | Namur | |
| Rhanbarth Brwsel-Prifddinas | |