Brabant Walonaidd
Oddi ar Wicipedia
Un o ddeg talaith Gwlad Belg yw Brabant Walonaidd (Ffrangeg: Brabant wallon, Iseldireg: Waals-Brabant). Mae'n ffurfio rhan o ranbarth Walonia. Hi yw'r lleiaf o'r taleithiau, gydag arwynebedd o 1091 km² a phoblogaeth o 370,460 yn 2007. Y brifddinas yw Wavre.
Ffurfiwyd y dalaith trwy rannu hen dalaith Brabant ar hyd y ffîn ieithyddol, i ffurfio Brabant Fflandrysaidd, Brabant Walonaidd ac Ardal y Brifddinas-Brwsel.
| Taleithiau Gwlad Belg | |
|---|---|
| Fflandrys: Antwerp | Dwyrain Fflandrys | Brabant Fflandrysaidd | Limburg | Gorllewin Fflandrys | |
| Walonia: Brabant Walonaidd | Hainaut | Liège | Luxembourg | Namur | |
| Rhanbarth Brwsel-Prifddinas | |