Gorllewin Fflandrys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad talaith Gorllewin Fflandrys

Un o ddeg talaith Gwlad Belg yw talaith Gorllewin Fflandrys (Iseldireg: West-Vlaanderen). Hi yw'r dalaith fwyaf gorllewinol yn rhanbarth Fflandrys yng ngogledd y wlad, a'r unig taleith yng Ngwlad Belg sydd ar yr arfordir. Mae'n ffinio â Ffrainc yn y gorllewin, ac â'r Iseldiroedd yn y dwyrain. Y brifddinas yw Brugge, ac ymhlith y dinasoedd eraill mae Kortrijk, Oostende, a Roeselare; mae Oostende a Zeebrugge yn borthladdoedd pwysig.

Mae gan y dalaith arwynebedd o 3,144 km², y fwyaf o daleithiau Fflandrys, a phoblogaeth o 1,130,040. Fel pob taleith Fflandrys, Iseldireg yw'r unig iaith swyddogol; siaredir y dafodiaith Fflemeg Orllewinol yn bur gyffredin.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


Taleithiau Gwlad Belg Baner Gwlad Belg
Fflandrys: Antwerp | Dwyrain Fflandrys | Brabant Fflandrysaidd | Limburg | Gorllewin Fflandrys
Walonia: Brabant Walonaidd | Hainaut | Liège | Luxembourg | Namur
Rhanbarth Brwsel-Prifddinas