Leuven
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn Fflandrys, Gwlad Belg a phrifddinas talaith Brabant Fflandrysaidd yw Leuven (Ffrangeg: Louvain). Mae'r boblogaeth tua 90,000.
Mae Leuven yn adnabyddus fel safle Prifysgol Gatholig Leuven, prifysgol hynaf yr ardal yma o Ewrop, a bragdy Anheuser-Busch InBev, gynt Brouwerij Artois. Ystyrir Leuven yn brifddinas cwrw Fflandrys a Gwlad Belg.
Ceir cyfeiriad at y ddinas fel Luvanium yn 884. Yn 891, gorchfygwyd y Llychlynwyr yma gan Arnulf o Carinthia. Ymhlith cyn-fyfyrwyr y brifysgol, mae'r Catholigion Cymreig Gruffydd Robert a Philip Powell.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Beguinage Mawr
- Eglwys Sant Pedr
- Eglwys Sant Quinten
- Neuadd y Dref
Enwogion [golygu]
- Mari o Brabant (1254-1321), brenhines Ffrainc
- Sylvain Van de Weyer (1802-1874), gwleidydd
- Emiel Puttemans (g. 1947), athletwr