Afon Gwilun
Oddi ar Wicipedia
Yr Afon Gwilun yn Roazhon, a'r eglwys cadeiriol yn y gwaelod
Afon yng ngorllewin Ffrainc sy'n llifo i'r môr yn Llydaw yw Afon Gwilun (Llydaweg; Ffrangeg: (Afon) Vilaine). Mae'n llifo trwy drefi Roazhon a Redon yn Llydaw, cyn cyrraedd y môr yn Pennestin.
Mae'r afon yn tarddu ym Mayenne cyn rhedeg trwy ddwyrain Llydaw, trwy 3 départements: Il-ha-Gwilun, Liger-Atlantel a Mor-Bihan.