Redon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Redon

Cymuned a thref yn Llydaw yw Redon (Gallo: Rdon). Saif yn département Ille-et-Vilaine a région Bretagne. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 9,601.

Saif ger cymer afon Oust ac afon Gwilun, 60 km i'r de-ddwyrain o Roazhon, 50 km i'r dwyrain o Vannes a 60 km i'r gogledd-orllewin o Naoned. Credir i'r dref ddatblygu yn y cyfnod Rhufeinig fel vicus llwyth y Redones. Yn 832, sefyflodd mynach Llydewig o'r enw Conwoïon abaty yma, gyda chymorth yr ymerawdwr Louis Dduwiol.