Ivor Novello
| Ivor Novello | |
|---|---|
![]() Ivor Novello |
|
| Ganwyd | 15 Ionawr, 1893 Caerdydd |
| Bu farw | 6 Mawrth, 1951 |
| Yn enwog am | Glamorous Nights, The Bohemian Girl |
| Galwedigaeth | Cyfansoddwr, dramodydd, actor |
Roedd David Ivor Davies neu Ivor Novello (15 Ionawr 1893 – 6 Mawrth 1951) yn ddifyrwr, yn ddramodydd, yn actor ac yn fab i David Davies a "Madame" Clara Novello Davies, cantores enwog. Fe'i ganed yn Llwyn-yr-Eos, Heol y Bontfaen, Dwyrain Caerdydd. Bu farw yn Theatr y Strand, Llundain.
Cyfansoddodd Novelloy y gân enwog, "Keep the Home Fires Burning" yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cafodd lwyddiant gyda sioeau megis Glamorous Nights a King's Rhapsody.
Pan oedd yn 12 oed, enillodd am ganu dan 12 oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon, 1906. Ond cafodd ei garcharu yn ystod yr Ail Ryfel Byd am ddefnyddio petrol anghyfreithlon, profiad a effeithiwyd arno'n fawr. Roedd Novello yn ddyn hoyw agored ac hapus. Am 35 mlynedd roedd yn gymar i'r actor Bobbie Andrews, dywedir iddo fod yn gariad i Siegfried Sassoon, y bardd o Sais.[1] Am flynyddoedd llawer bu'n byw yn Littlewick Green yn Nwyrain Swydd Berks .
Ffilmiau[golygu]
- The Call of the Blood (L'Appel du Sang) - 1919
- Miarka: The Daughter of the Bear (Miarka, Fille de L'Ourse) - 1920
- Carnival - 1922
- The Bohemian Girl - 1922
- The Man Without Desire - 1923
- The White Rose - 1923
- Bonnie Prince Charlie - 1923
- The Rat - 1925
- The Triumph of the Rat - 1926
- The Lodger: A Story of the London Fog - (1927)
- Downhill - 1927
- The Vortex - 1928
- The Constant Nymph - 1928
- The Gallant Hussar - 1928
- The South Sea Bubble - 1928
- The Return of the Rat - 1928
- Symphony in Two Flats - 1930
- Once a Lady - 1931
- The Phantom Fiend - 1932
- I Lived With You - 1933
- Sleeping Car - 1933
- Autumn Crocus - 1934
Llyfryddiaeth[golygu]
- Glamorous Night (1935)
- Careless Rapture (1936)
- The Dancing Years (1939)
- Perchance to Dream (1945)
- King's Rhapsody (1949)
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Gweler 'Rhywbeth Bob Dydd' gan Hafina Clwyd; cyhoeddwyd 2008; tud 19 - 21.
