Pontcanna

Oddi ar Wicipedia
Pontcanna
Mathcymuned, maestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4906°N 3.2022°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001002 Edit this on Wikidata
Map

Ardal a chymyned yng Nghaerdydd yw Pontcanna (hen sillafiad: Pontganna). Gall fod ei henw'n cyfeirio at Santes Canna, santes o'r chweched ganrif o dde Cymru.

'Pontaganna' - gyda threiglad oedd yr ynganiad byw fel y gwelir yn y sillafiad o 1702 mewn ewyllys ac eto yng nghofnodion Sesiwn Chwarter o 1751.[1] Mae hyn yn dilyn yr un patrwm a: Pontgarreg, Pontgadfan, (capel y Wesleaid yn Llangadfan) a 'Threganna', ond mae 'Pontcanna' wedi hen sefydlu, bellach.

Roedd creu cymuned Pontcanna newydd yn 2016 (rhan o ardal Glan'rafon yn wreiddiol).[2]

Pontcanna gyfoes[golygu | golygu cod]

Mae Pontcanna yn ardal o dai teras o wahanol feintiau a adeiladwyd yn ystod Oes Fictoria. Mae bellach yn un o ardaloedd mwyaf deniadol Caerdydd ac yn cynnwys amryw o swyddfeydd a gwestai. Ar hyd Stryd Pontcanna geir amrywiaeth o gaffes a bwytai.

Lleolwyd pencadlys gyntaf S4C yng Ngerddi Sophia ym Mhontcanna yn 1982. Ceir hefyd siop lyfrau Gymraeg yn y cwarter sef Siop Caban.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Diferion o'r Pwll Coch, gan Dr Dylan Foster Evans; adalwyd 2 Mai 2015
  2. Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau) – 2016 Rhif 1155 (Cy. 277) (PDF). Offerynnau Statudol Cymru. 2016.
  3. "Siop y Caban, Pontcanna, Tony Bianchi a Chôr Cochion Caerdydd". 13 Gorffennaf 2018.