Caerdydd Canolog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyfesurynnau: 51°28′34″N 3°10′41″W / 51.476°N 3.178°W / 51.476; -3.178
Caerdydd Canolog National Rail logo.svg
Saesneg: Cardiff Central
CardiffCentral-front-02.jpg
Lleoliad
Lleoliad Caerdydd
Awdurdod lleol Caerdydd
Gweithrediadau
Côd gorsaf CDF
Rheolir gan Trenau Arriva Cymru
Nifer o blatfformau 7
Cyraeddiadau/gwyriadau fyw a gwybodaeth orsaf
gan National Rail Enquiries
Defnydd teithwyr blynyddol
2007-08 Green Arrow Up.svg 9.875 miliwn
2008-09 Green Arrow Up.svg 10.485 miliwn
2009-10 Green Arrow Up.svg 10.743 miliwn
2010-11 Green Arrow Up.svg 11.260 miliwn
2012-13 Green Arrow Up.svg 11.683 miliwn
CaerdyddLB01.jpg

Gorsaf drenau fwyaf Caerdydd a Chymru ydy Caerdydd Canolog. Mae'n un o brif orsafoedd y rhwydwaith reilffordd yng ngwledydd Prydain, a'r degfed gorsaf prysuraf y tu allan i Lundain. Mae trenau'n dod tuag ati o'r gogledd (Merthyr Tudful), o'r de (Y Barri), ac o'r dwyrain (Casnewydd, Bryste, Birmingham, Llundain a Newcastle upon Tyne), ac o'r gorllewin o (Ben-y-bont, Abergwaun), a hyd yn oed o gyfeiriadau rhyngddynt hwy. Ceir trenau hefyd i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.

Gweithredir yr orsaf gan gwmni Trenau Arriva Cymru. Adnabyddwyd yr orsaf fel Cardiff General hyd at 7 Mai 1973.[1] Fe'i lleolir ger Stadiwm y Mileniwm yn y Sgwâr Canolog yng nghanol y ddinas, ac mae'n un o ddwy brif orsaf y dddinas honno; y llall yw gorsaf Heol y Frenhines) sy'n gwasanaethu trenau lleol yn unig. Ceir hefyd 20 gorsaf maestrefol o fewn ardal y ddinas.

Mae'r holl orsaf, gan gynnwys y Tŵr Dŵr ger platfform 0, wedi ei restru fel adeilad Gradd II.

Hanes[golygu]

Agorwyd yr orsaf gan South Wales Railway yn 1850. Ail-adeiladwyd hi gan y cwmni a'i olynodd, y Great Western Railway, yn 1932 ac mae hyn wedi'i gerfio ar flaen yr adeilad. Cyfunwyd yr orsaf faestrefol 1893 Cardiff Riverside gyda'r brif orsaf yn 1940, ond ni ddefnyddwyd y platfform hwnnw ar gyfer teithwyr ers yr 1960au.[2]

CaerdyddLB02.jpg

Lleoliad yr orsaf[golygu]

Mae dwy fynedfa i'r orsaf, un ar Sgwâr Canolog, o Wood Street, gyferbyn a Gorsaf Bysiau Caerdydd Canolog lle ceir dwy reng o dacsis. Hon yw'r fynedfa i brif ran yr orsaf lle mae'r cyfleusterau'n cynnwys:

Mae'r fynedfa arall yng nghefn yr adeilad, yn Heol Eglwys Fair (Tresillian Way), ble mae maes parcio'r orsaf hefyd i'w gael. Mae cledrau'r rheilfford uwchben y tanlwybr, sy'n rhedeg o un fynedfa i'r llall. Ceir grisiau a lifftiau ar y platfform. Mae angen tocyn dilys o bob pen y tanlwybr er mwyn cael mynd at y platfform.

Mae saith platfform ar dair ynys, 1/2, 3/4 a 6/7 (nid oes Platfform 5, roedd bae gynt yn y pen gorllewin rhwng platfform 3 a 4), gyda phlatfform ochr, mae grisiau ar wahân yn arwain at Blatfform 0, o ben gorllewinol neuadd y brif fynedfa.

Rhennir platforms 3 a 4 yn 'a' a 'b' er mwyn dal dau trenau lleol neu un tren pellter-hir. Yn wahanol i Birmingham, nid oes gan y rhain signalau ar wahân, ac nid yw'n anarferol i'r platfform eraill gael eu defnyddio ar gyfer mwy na un tren lleol ar yr un amser.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Cardiff Timeline
  2. Barrie, D.S.M. (1980). A Regional History of the Railways of Great Britain, vol. 12: South Wales. David & Charles ISBN 0-7153-7970-4