Marks & Spencer

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Logo cyfred Marks a Spencers

Cwmni adwerthu o'r DU sydd erbyn hyn yn perchen 843 o siopau mewn mwy na 30 o wledydd ar draws y byd yw Marks & Spencer Group plc (hefyd M&S, Marks and Spencers; Marks a Sparks neu Marks ar lafar). Lleolir 600 o'r 843 siop yn y DU. Marks yw'r adwerthwr dillad mwyaf yn y DU a'r 43fed fwyaf o gwmnïau adwerthu'r byd cyfan. Mae'r rhan fwyaf o'i siopau stryd mawr yng ngwledydd Prydain yn gwerthu bwyd a dillad ac mae wedi dechrau ehangu yn ddiweddar i gynnwys gwerthu nwyddau fel dodrefn hefyd.

Sefydlwyd y cwmni gan Michael Marks, mewnfudwr o ddinas Minsk (prifddinas Belarws heddiw) yn 1884 fel stondin farchnad yn Leeds, Lloegr. Heddiw mae'r pencadlys yn Llundain.

Yn 1998 Marks oedd yr adwerthwr cyntaf yn y DU i wneud elw cyn treth o dros over £1 biliwn. Ar ôl tyfu'n bur sylweddol yn y 2000au, wynebodd argyfwng yn haf 2008 gyda gwerth ei rhanddaliadau yn cwympo i lai na 50% eu gwerth blwyddyn cyn hynny, wrth i M&S geisio ymdopi ag ymateb ei gwsmeriaid i'r argyfwng credyd.

Safle'r Gymraeg[golygu]

Am flynyddoedd bu Marks yng Nghymru yn gyndyn iawn i gydnabod y Gymraeg a chynnig gwasanaeth dwyieithog.

Yn ei gerdd 'Trafferth mewn siop' (yn y gyfrol Cilmeri), mae'r prifardd Gerallt Lloyd Owen yn adrodd yn ysmala yr helynt pan wrthodwyd iddo dalu â siec yn y Gymraeg yn siop Marks a Spencers, Llandudno; mae'r gerdd yn adleisio cerdd adnabyddus Dafydd ap Gwilym, 'Trafferth mewn Tafarn'.

Gweler hefyd[golygu]