Y Rhath
Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw'r Rhath (Saesneg: Roath). Lleolir i'r gogledd-ddwyrain o ganol y dref, ac yn ymestyn o Adamsdown i'r de at Barc y Rhath i'r gogledd. Mae'n cynnwys ward etholaethol Plasnewydd. Credir y daw'r enw o'r Gwyddeleg am gaer, sef ráth, neu gall darddu o enw anheddiad rhufeinig Caerdydd, sef Ratostabius.
Prif strydoedd siop y Rhath yw Albany Road, City Road, a Wellfield Road. Mae'n nodweddiadol am y teimlad rhanol-wledig, gyda strydoedd o dai o Oes Fictoria a choed wedi eu plannu ar hyd nifer o'r strydoedd. Mae poblogaeth yr ardal yn dod o gefndir eang, ac yn gymysgedd o fyfyrwyr (gan ei fod yn agos i gampysiau'r Brifysgol), poblogaeth sylweddol o bobl o dras lleiafrif ethnig a llawer o bobl ifanc proffesiynol. Mae cymysgedd o'r tlawd a'r cyfoethog yn yr ardal, ond mae'r cyfoeth wedi ei leoli yng ngogledd y gymuned yn bennaf, ar gyrion Parc y Rhath a'r meysydd chwarae.
Cyfleusterau[golygu]
- Prifysgol Caerdydd
- Llyfrgell y Rhath
- Parc y Rhath
| Cymunedau Caerdydd |
|
Caerau | Castell | Cathays | Coryton | Croes Cwrlwys | Cyncoed | Danescourt | Yr Eglwys Newydd | Gabalfa | Glan yr Afon | Llandaf | Llanedeyrn | Llaneirwg a Phentre Laneirwg | Llanisien | Llanrhymni | Llysfaen | Y Mynydd Bychan | Pentwyn | Pentyrch | Plasnewydd | Pontprennau | Radur a Threforgan | Rhiwbeina | Y Rhath | Sain Ffagan | Y Sblot | Tre-Biwt | Tredelerch | Treganna | Trelái | Trelluest | Tongwynlais | Trowbridge | Y Tyllgoed | Waunadda | Ystum Taf |