Llanisien

Oddi ar Wicipedia
Llanisien
Mathcymuned, maestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.529°N 3.189°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000999 Edit this on Wikidata
Map
Am y pentref o'r un enw yn Sir Fynwy, gweler Llanisien, Sir Fynwy.

Cymuned ar gyrion Caerdydd yw Llanisien (ffurf Seisnigaidd, Llanishen). Ei nawddsant yw Isan.

Bu'n gartref i Ffatri Arfau'r Goron Caerdydd a sefydlwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn 1987 daeth y ffatri yn Sefydliad Arfau Atomig yn swyddogol, ond roedd grwpiau heddwch fel CND Cymru eisoes yn ymwybodol fod gwaith ymchwil o'r fath yn digwydd yno a gwelwyd sawl protest mawr yno yn y 1980au. Caewyd y sefydliad yn Chwefror 1997 ac mae stadau tai wedi'u codi yno ers hynny.

Mae Parc Tŷ Glas yn gartref i swyddfeydd S4C ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Ceir un o ganolfannau mawr yr Adran Trethi yno hefyd, sy'n rhan o ystad o swyddfeydd y llywodraeth ganolog.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanisien (pob oed) (17,417)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanisien) (1,779)
  
10.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanisien) (13302)
  
76.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanisien) (2,302)
  
30.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]