Colin Jackson
Cyn-athletwr sbrint a ras glwydi Cymreig yw Colin Ray Jackson CBE (ganwyd 18 Chwefror 1967). Ganwyd Jackson yng Nghaerdydd, a daw o dras Jamaicaidd, Maroon, Taino (Americanwyr brodorol), ac Albanaidd. Erbyn hyn, mae'n gweithio fel sylwebydd chwaraeon, ar y BBC yn bennaf. Deliodd record y byd ras clwydi 110 medr rhwng 1993 a 2006. Ef yw deilydd pressennol record y byd ras glwydi 60 medr a deilydd record ras glwydi 110 medr Gemau'r Gymanwlad.[1]
Cynnwys |
Gyrfa athletau [golygu]
Mynychodd Jackson Ysgol Uwchradd Llanedeyrn lle bu'n chwarae pêl-droed a criced dros y sir, a rygbi'r undeb a pêl-fasged dros yr ysgol.
Odan orychwyliaeth ei ffrind a'i hyffoddwe, Malcolm Arnold, dechreuodd ei yrfa fel athletwr decathlon addawol cyn newis i redeg y ras glwydi uchel. Yn dilyn ennill medal arian yng Ngemau'r Gymanwlad 1986, enillodd fedal arian yn y ras glwydi 110 medr yng Ngemau Olympaidd 1988 tu ôl iRoger Kingdom. Byddai ei yrfa fel athletwr yn para 15 mlynedd, a'r deg olaf fel deilydd record y byd. Bu'n Bencampwr y Byd ddwywaith, Pencampwr y Gymanwlad ddwywaith ac yn Bencampwr Ewropeaidd bedair gwaith ond dyma'r unig fedal Olympaidd iddo eried ennill. Roedd wedi ei anafu pan redodd y ras glwydi 110 medr yng Ngemau Olympaidd 1992 ac felly ni fedrodd orffen yn uwch na'r seithfed safle, daeth yn bwedwerydd yng Ngemau Olympaidd 1996, ac yn bumed yn yng 2000.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ 60 Metres Hurdles Records. IAAF. Adalwyd ar 2009-04-04.
Llyfryddiaeth [golygu]
- Colin Jackson: The Autobiography (BBC Books, 2003)
- Life’s New Hurdles, cyfres Stori Sydyn 2008, Accent Press, ISBN 9781906125936
Dolenni allanol [golygu]
- Proffil IAAF Colin Jackson
- Bywgraffiad Colin Jackson, olympics.org.uk
- Colin Jackson, athlete and Quick Read author, gives his tips on story writing, BBC
- Proffil 'Power o f10' Colin Jackson
- Colin Jackson - athlete from Cardiff, BBC
- Colin Jackson, Who Do You Think You Are?
- Biography of Colin Jackson, Sunday Life
- Proffil Colin Jackson, londonspeakerbureau.co.uk
- Bywgraffiad ar wefan ei asiant