Treganna

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad ward Treganna o fewn Caerdydd

Cymuned yng ngorllewin Caerdydd yw Treganna (Saesneg: Canton). Nid yw tarddiad yr enw Treganna yn glir, ond dywed rhai ei fod yn deillio o enw Santes Canna, santes yn y chweched ganrif o dde Cymru (merch i nai'r Brenin Arthur yn ôl y chwedl). Digwydd yr elfen canna yn enw'r ardal gyfagos Pontcanna hefyd.

Y brif heol yw Heol Ddwyreiniol y Bont-faen: arni y mae llawer o siopau, bwytai a chaffis. Mae sawl parc yn yr ardal, gan gynnwys Parc Fictoria, Parc Thompson a Pharc y Jiwbilî. Mae Canolfan Celfyddydau Chapter (a agorwyd yn 1971 ar hen safle Ysgol Uwchradd Cantonian) yn un o'r prif atyniadau.

Mae nifer o addoldai yn Nhreganna, gan gynnwys Salem, un o gapeli Cymraeg Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Mae gan Dreganna ddau stadiwm chwaraeon nodedig, sef Stadiwm Dinas Caerdydd (cartref C.P.D. Dinas Caerdydd) a Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd (stadiwm athletau).

Daeth Treganna yn rhan o Gaerdydd yn 1875.

Y Gymraeg[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 nodwyd bod 19.1% o'r boblogaeth dros dair blwydd oed yn medru'r Gymraeg, sef 2,625 o bobl. Roedd hyn yn gynnydd arwyddocaol ar ffigyrau cyfrifiad 2001, sef 15.6% a 1,964.[1]

Mae dwy ysgol gynradd Gymraeg yn Nhreganna, sef Ysgol Gymraeg Pwll Coch ac Ysgol Gymraeg Treganna. Un addoldy Cymraeg sydd yn y gymuned, sef Salem, un o gapeli Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Adeiladwyd addoldy presennol y Cardiff Chinese Christian Church (Heol Llandaf) yn gapel i'r Bedyddwyr Cymraeg, ond troes yr iaith i'r Saesneg ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.[2]

Demograffeg[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 cafwyd yr ystadegau a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Treganna (pob oed) (14,304)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Treganna) (2,625)
  
19.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Treganna) (10119)
  
70.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Treganna) (1,821)
  
29.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Addysg[golygu]

Yn ogystal â'r ddwy ysgol gynradd Gymraeg (Ysgol Gymraeg Pwll Coch ac Ysgol Gymraeg Treganna), mae dwy ysgol gynradd Saesneg hefyd, sef Ysgol Gynradd Lansdowne ac Ysgol Gynradd Radnor. Un ysgol uwchradd sydd yn y gymuned, sef Ysgol Uwchradd Fitzalan.


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Comisiynydd y Gymraeg: Cyfrifiad 2011: canlyniadau yn ôl Cymuned; gwelwyd 24 Ionawr 2015.
  2. Bryan Jones, Images of Wales: Canton (argraffiad newydd, Stroud, 2003), tt. 22 a 32.
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013


Cymunedau Caerdydd

Adamsdown | Caerau | Castell | Cathays | Cyncoed | Yr Eglwys Newydd | Gabalfa | Glan'rafon | Grangetown | Llandaf | Llanisien | Llanrhymni | Llys-faen | Y Mynydd Bychan | Pentref Llaneirwg | Pen-twyn | Pen-tyrch | Pen-y-lan | Plasnewydd | Pontprennau | Radur a Threforgan | Rhiwbeina | Y Rhath | Sain Ffagan | Y Sblot | Tre-Biwt | Tredelerch | Treganna | Trelái | Tongwynlais | Trowbridge | Tyllgoed | Ystum Taf