Roald Dahl
Awdur nofelau a storïau byr, a llenor ar gyfer y sgrîn, oedd Roald Dahl (13 Medi 1916 – 23 Tachwedd 1990). Roedd yn enwog am ei lyfrau ar gyfer oedolion a plant yn arbennig.
Ganwyd Dahl yng Nghaerdydd i rieni Norwyaidd. Cafodd ei bedyddio yn yr Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd. Daeth i'r amlwg yn yr 1940au gyda'i waith ar gyfer plant ac oedolion, gan ddod yn un o awduron mwyaf poblogaidd y byd. Datgelwyd yn y 1980au iddo weithio fel asiant ddirgel ar gyfer MI6, Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Dramor Prydain, gan wasanaethu yn yr Unol Daleithiau i hybu diddordebau Prydain ac i frwydro yn erbyn symudiad "America First", gan weithio ar y cyd gydag Ian Fleming a David Ogilvy.[1] Mae'r llyfr hanesyddol, "The Irregulars" gan Jennet Conant (2008, Simon and Schuster) yn disgirfio'r cyfnod hwn ym mywyd Dahl a'i gyfoeswyr.
Mae llyfrau mwyaf poblogaidd Dahl yn cynnwys The Twits, Charlie a'r Ffatri Siocled, James a'r Eirinen Wlanog Enfawr, Matilda, Y Gwrachod a Yr CMM.
Cynnwys |
Teulu [golygu]
Priododd Dahl yr actores Americanaidd, Patricia Neal, ar 2 Gorffennaf 1953 yn Eglwys y Drindod, Dinas Efrog Newydd. Parhaodd y briodas 30 mlynedd a chawsont bump o blant: Olivia (a fu farw o frech-wen encephalitis, yn saith oed), Tessa, Theo, Ophelia, a Lucy. Cysegrwyd y llyfr The BFG i Olivia.
Pan oedd yn bedwar mlwydd oed, cafodd Theo Dahl anafiadau drwg pan drawodd tacsi ei goets. Fe ddioddefodd o hydrocephalus, ac fel canlyniad, daeth Dahl i ymwneud gyda datblygiad y falf "Wade-Dahl-Till" (neu'r falf WDT), dyfais i leddfu'r cyflwr.[2][3]
Yn 1965, dioddefodd Neal dri ebychiad aneurysm ymenyddol tra'n feichiog gyda'u pumed plentyn, Lucy; fe gymerodd Dahl reolaeth o'i adferiad, ac fe ailddysgodd sut i gerdded a siarad yn y diwedd.[4] Ar ôl priodas dryblus, cawsant ysgariad yn 1983, ac fe ail-briododd Dahl Felicity ("Liccy") d'Abreu Crosland (ganwyd 12 Rhagfyr 1938), a oedd 22 mlynedd yn iau nag ef.
Mae Ophelia Dahl yn gyfarwyddwr ac yn gyd-sefydlydd (gyda Paul Farmer) cymdeithas ddi-elw Partners in Health, sy'n darparu gofal iechyd i rai o gymunedau tlotaf y byd. Mae Lucy Dahl yn llenor ar gyfer y sgrîn yn Los Angeles. Mae merch Tessa, Sophie Dahl (a ysbrydolodd Dahl i greu cymeriad Sophie, prif gymeriad Y CMM) yn fodel ac yn awdures, mae hi'n cofio Roald Dahl fel "dyn anodd iawn – cryf iawn, dominyddol ... ddim yn anhebyg i tad y chwiorydd Mitford yn rhuo o gwmpas y tŷ yn dweud ei farn yn swnllyd, gan wahardd rhai bechgyn rhag ymweld â'r tŷ."[5] Mae un o nifer o wyrion Dahl yn mynychu'r Royal Palm Academy.[6]
Diwrnod Roald Dahl [golygu]
Yn ddiweddar, mae diwrnod pen-blwydd Dahl, 13 Medi, wedi cael ei ddathlu yn eang fel Diwrnod Roald Dahl.[7][8]
Llenyddiaeth plant [golygu]
Roedd mam Dahl yn arfer adrodd staeon iddo ef a'i chwiorydd am greaduriaid mytholegol Norwyaidd, ac mae nifer o'i lyfrau'n cyfeirio at y rhain neu wedi cael eu hysbrydoli gan y straeon, megis y cewri yn The BFG. Darlunwyd nifer o'i lyfrau gan Quentin Blake.
Rhestr Gweithiau [golygu]
Gwaith ar gyfer Plant [golygu]
Storïau Plant [golygu]
- The Gremlins (1943)
- James a'r Eirinen Wlanog Enfawr (Saesneg: James and the Giant Peach) (1961) — Ffilm: James and the Giant Peach (animeiddio) (1996)
- Charlie a'r Ffatri Siocled (Saesneg: Charlie and the Chocolate Factory) (1964) — Ffilmiau: Willy Wonka & the Chocolate Factory (1971) a Charlie and the Chocolate Factory (2005)
- The Magic Finger (1966)
- Mr Cadno Campus (Saesneg: Fantastic Mr Fox) (1970) — Ffilm: Fantastic Mr. Fox (animeiddio)
- Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr (Saesneg: Charlie and the Great Glass Elevator) (1972) Dilyniant i Charlie and the Chocolate Factory.
- Danny Pencampwr y Byd (Saesneg: Danny the Champion of the World) (1975) — Ffilm: Danny the Champion of the World (ffilm teledu) (1989)
- The Wonderful Story of Henry Sugar and Six More (1977)
- Y Crocodeil Anferthol (Saesneg: The Enormous Crocodile) (1978)
- Y Twits (Saesneg: The Twits) (1980)
- Moddion Rhyfeddol George (Saesneg: George's Marvelous Medicine) (1981)
- Yr CMM (Saesneg: The BFG) (1982) — Ffilm: The BFG (animeiddio) (1989)
- Y Gwrachod (Saesneg: The Witches) (1983) — Ffilm: The Witches (1990)
- Jiráff, a'r Pelican a Fi (Saesneg: The Giraffe and the Pelly and Me) (1985)
- Matilda (1988) — Ffilm: ''Matilda (1996)
- Esio Trot (1989)
- The Minpins (1991)
- The Vicar of Nibbleswicke (1991)
Barddoniaeth Plant [golygu]
- Ffi Ffai Ffiaidd (Saesneg: Revolting Rhymes) (1982)
- Dirty Beasts (1983)
- Rhyme Stew (1989)
Ffuglen ar gyfer Oedolion [golygu]
Nofelau [golygu]
- Sometime Never: A Fable for Supermen (1948)
- My Uncle Oswald (1979)
Casgliadau Storïau Byrion [golygu]
- Over To You: Ten Stories of Flyers and Flying (1946)
- Someone Like You (1953)
- Kiss Kiss (1960)
- Twenty-Nine Kisses from Roald Dahl (1969)
- Tales of the Unexpected (1979)
- Switch Bitch (1974) ISBN 0-1400-4179-6
- More Tales of the Unexpected (1980)
- The Best of Roald Dahl (1978)
- Roald Dahl's Book of Ghost Stories (1983). Golygwyd gyda rhagair gan Dahl.
- Ah, Sweet Mystery of Life: The Country Stories of Roald Dahl (1989)
- The Collected Short Stories of Dahl (1991)
- Two Fables (1986). "Princess and the Poacher" a "Princess Mammalia".
- The Great Automatic Grammatizator (1997). (Adnabyddir yn yr Unol Daleithiau odan yr enw The Umbrella Man and Other Stories).
- Skin And Other Stories (2002)
- Roald Dahl: Collected Stories (2006)
Ffeithiol [golygu]
- The Mildenhall Treasure (1946, 1977, 1999)
- Boy – Tales of Childhood (1984) Atgofion hyd oedran 16, gan ganolbwyntio yn arbenig ar addysgu ym Mhrydain yn nechrau'r 20fed ganrif.
- Going Solo (1986) Dilyniant iw hunanatgofiant, ynddi mae'n mynd i weithio i Shell ac yn gwario amser yn gweithio yn Tanzania cyn ymuno â ymdrech y rhyfel gan fod yn un o'r peilotau cynghreiriol olaf i adael Gwlad Groeg yn ystod y goresgyniad Almaeneg.
- Measles, a Dangerous Illness (1986)[9]
- Memories with Food at Gipsy House (1991)
- Roald Dahl's Guide to Railway Safety (1991)
- My Year (1993)
- The Roald Dahl Ominibus (1993)
Dramâu [golygu]
- The Honeys (1955) Cynhyrchwyd yn Theatr Longacre ar Broadway.
Sgriptiau Ffilm [golygu]
- 36 Hours (1965)
- You Only Live Twice (1967)
- Chitty Chitty Bang Bang (1968)
- The Night Digger (1971)
- Willy Wonka & the Chocolate Factory (1971)
Teledu [golygu]
- Way Out (1961) Cyfres Arswyd a gynhyrchwyd gan David Susskind
- Alfred Hitchcock Presents ysgrifennwyd pennodau gan Roald Dahl:
- Alfred Hitchcock Presents: "Lamb to the Slaughter" (1958)
- Alfred Hitchcock Presents: "Dip in the Pool" (1958)
- Alfred Hitchcock Presents: "Poison" (1958)
- Alfred Hitchcock Presents: "Man from the South" (1960)
- Alfred Hitchcock Presents: "Mrs. Bixby and the Colonel's Coat" (1960)
- Alfred Hitchcock Presents: "The Landlady" (1961)
- Tales of the Unexpected (1979-88), ysgrifennwyd a chyflwynwyd pennodau gan Roald Dahl.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "The Irregulars", Jennet Conant, Simon and Schuster 2008
- ↑ Water on the Brain. MedGadget: Internet Journal of Emerging Medical Technologies (15 Gorffennaf 2005).
- ↑ Dr Andrew Larner. Tales of the Unexpected: Roald Dahl’s Neurological Contributions. Advances in Clinical Neuroscience and Rehabilitation.
- ↑ Barry Farrell (1969). Pat and Roald. Kingsport Press
- ↑ "a very difficult man – very strong, very dominant ... not unlike the father of the Mitford sisters sort of roaring round the house with these very loud opinions, banning certain types – foppish boys, you know – from coming round."
- ↑ royalpalmacademy.com
- ↑ Roald Dahl Day celebrations, Roald Dahl Museum and Story Centre
- ↑ Roald Dahl's 90th Birthday!, Random House UK
- ↑ Ffynhonnell: ysgrifennwyd ar gyfer taflen a gyhoeddwyd yn 1986 gan y 'Sandwell Health Authority' (Sandwell and West Birmingham Hospitals NHS Trust erbyn heddiw). Ailgynhyrchwyd http://www.blacktriangle.org/blog/?p=715 yma