You Only Live Twice (ffilm)
Poster y Ffilm |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Lewis Gilbert |
| Cynhyrchydd | Harry Saltzman Albert R. Broccoli |
| Ysgrifennwr | Ian Fleming |
| Addaswr | Roald Dahl |
| Serennu | Sean Connery Mie Hama Donald Pleasence Akiko Wakabayashi |
| Cerddoriaeth | John Barry |
| Prif thema | You Only Live Twice |
| Cyfansoddwr y thema | John Barry Leslie Bricusse |
| Perfformiwr y thema | Nancy Sinatra |
| Sinematograffeg | Freddie Young |
| Golygydd | Peter R. Hunt |
| Cwmni Cynhyrchu | United Artists |
| Dosbarthydd | Danjaq EON Productions |
| Dyddiad rhyddhau | 1 Mehefin 1967 |
| Amser rhedeg | 117 munud |
| Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
| Iaith | Saesneg |
| Cyllideb | $9,500,000 |
| Refeniw gros | $111,600,000 |
| Rhagflaenydd | Thunderball (1965) |
| Olynydd | On Her Majesty's Secret Service (1969) |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Y pumed ffilm yng nghyfres James Bond yw You Only Live Twice (1967), a'r pumed ffilm i Sean Connery serennu fel yr asiant ffuglennol MI6. Addaswyd sgript y ffilm gan Roald Dahl a seiliwyd y ffilm ar nofel 1964 Ian Fleming o'r un enw. Dyma oedd y ffilm Bond cyntaf i anwybyddu'r rhan fwyaf o blot Fleming, gan ddefnyddio ambell gymeriad a lleoliad yn unig o'r stori wreiddiol mewn plot cwbl wahanol.
Yn y ffilm, danfonir Bond i Siapan ar ôl i longau gofod Americanaidd a Rwsiaidd ddiflannu tra'n teithio drwy'r bydysawd. Gyda'r naill wlad yn beio'r llall yng nghanol y Rhyfel Oer, teithia Bond i ynys Siapaneaidd anghysbell er mwyn darganfod pwy sy'n gyfrifol. Yno cyfarfu â Ernst Stavro Blofeld, pennaeth SPECTRE. Cyflwyna'r ffilm gymeriad Blofeld nas gwelwyd ef cyn hyn. Mae SPECTRE yn gweithio ar ran rhywrai eraill, llywodraeth estron a gynrychiolir gan swyddogion Asiaidd. Er na enwir unrhyw wlad yn benodol yn y ffilm, mae'n bosib eu bod yn dod o Tseina am fod perthynas Tseina â'r UDA a'r Undeb Sofietaidd wedi cyrraedd isafbwynt tua'r cyfnod y cafodd y ffilm ei gynhyrchu.
|
||||||||