Eglwys Norwyaidd, Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr Eglwys Norwyaidd gyda Trelluest a chanol dinas Caerdydd i'w gweld yn y cefndir.

Adeilad hanesyddol yng Nghaerdydd yw'r Eglwys Norwyaidd, a fu gynt yn ganolfan addoli i gymuned Norwyaidd Caerdydd ond sydd bellach yn atyniad twristaidd. Saif ar lan Bae Caerdydd ger yr hen ddociau, heb fod nepell o adeilad y Senedd.

Yn y 19eg ganrif, Caerdydd oedd y trydydd porthladd mwyaf yng ngwledydd Prydain ar ôl Llundain a Lerpwl. Roedd gan Norwy lynges fasnachol fawr ar y pryd, y trydydd mwyaf yn y byd o ran nifer y llongau, a daeth Caerdydd yn un o'i chanolfannau pwysicaf. Tyfodd cymuned Norwyaidd yno, un o sawl cymuned o dramorwyr a gafodd gartref yn ardal Tiger Bay, ger y dociau.

Daeth y Sjømannskirken – 'Eglwys y Morwyr' Norwyaidd neu 'Eglwys Norwy Dramor', sy'n rhan o Eglwys Norwy – i ymsefydlu ym Mae Caerdydd yn 1868 a chodwyd eglwys neilltuol ar gyfer y morwyr Norwyaidd.

Eglwys bren drawiadol ydy'r Eglwys Norwyaidd, wedi'i phaentio yn y dull Norwyaidd.

Bedyddwyd y llenor Cymreig o dras Norwyaidd Roald Dahl yn yr eglwys.

Erbyn heddiw mae'r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel canolfan y celfyddydau o'r enw 'Canolfan Celfyddydau yr Eglwys Norwyaidd' (Norwegian Church Arts Centre). Ceir amgueddfa fechan ger llaw sy'n dangos hanes yr eglwys a Dociau Caerdydd.

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]