Canolfan Mileniwm Cymru
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
| Lleoliad | Bae Caerdydd, Caerdydd, Cymru | ||||
|---|---|---|---|---|---|
| Torri Tir | Chwefror 2002 | ||||
| Agorwyd | Cyfnod 1-28fed o Dachwedd 2004 Cyfnod 2-31fed o Ionawr 2009 |
||||
| Cost | GB£106.2 | ||||
| Pensaer | Percy Thomas partneriaeth, nawr or enw Capita Architecture |
||||
| Nifer o seddau | Theatr Donald Gordon: 1,897 BBC Hoddinott Hall: 350 Weston Studio Theatre: 250 |
||||
Lle ar gyfer y celfyddydau perfformiadol yw Canolfan Mileniwm Cymru a leolir yng Nghaerdydd. Gobeithir y bydd doniau opera, bale, sioeau cerdd a dawns gorau'r byd yn perfformio yno. Costiodd £104 miliwn i'w godi; darparodd y Cynulliad Cenedlaethol rant o £37 miliwn i gyfrannu at y cost, hefyd darparwyd £30.7 miliwn gan Gomisiwn y Mileniwm, a £9.8 miliwn gan Gyngor Celfyddyd Cymru. Cafodd ei agor yn swyddogol yn 2004.
Yn ogystal y mae saith sefydliad celfyddydol wedi eu lleoli yno, gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru, yr Academi Gymreig Opera Cenedlaethol Cymru, Tŷ Cerdd, Diversions - Cwmni Dawns Cymru, Touch Trust a Hijinx. Mae canolfan Urdd Gobaith Cymru yno yn cynnwys canolfan o 150 gwely i blant Cymru allu aros yno.