Ystum Taf

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw Ystum Taf (Saesneg: Llandaff North), i'r gogledd-ddwyrain o Llandaf, caiff y ddau eu gwahanu gan yr Afon Taf. Lleolir ysgol iau Hawthorn, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf yma.

Gweinyddiaeth [golygu]

Lleolir ward Ystum Taf o fewn etholaeth seneddol Gogledd Caerdydd. Mae'r arffinio gyda wardiau Radyr a Morganstown i'r gogledd-orllewin; Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais i'r gogledd; Y Mynydd Bychan i'r gogledd ddwyrain; Gabalfa i'r dwyrain; Rhiwbeina a Llandaf i'r de-orllewin.

Cludiant [golygu]

Mae Gorsaf reilffordd Llandaf yn gwasanaethu'r ardal, gyda gwasnaethau yn rhedeg i'r gogledd i Dreherbert, Merthyr Tudfil neu Aberdâr gan deithio trwy Radur a Phontypridd. Mae gwasanaethau yn teithio i Caerdydd Canolog i'r de, gan deithio trwy Heol y Frenhines.

Mae gwasanaethau bws rheolaidd rhif 24 (Llandaf-Pontcanna-Caerdydd Canolog), a 25 (Yr Eglwys Newydd-Birchgrove-Gabalfa-Cathays-Caerdydd Canolog) yn cael eu rhedeg gan gwmni Bws Caerdydd.


Cymunedau Caerdydd

Caerau | Castell | Cathays | Coryton | Croes Cwrlwys | Cyncoed | Danescourt | Yr Eglwys Newydd | Gabalfa | Glan yr Afon | Llandaf | Llanedeyrn | Llaneirwg a Phentre Laneirwg | Llanisien | Llanrhymni | Llysfaen | Y Mynydd Bychan | Pentwyn | Pentyrch | Plasnewydd | Pontprennau | Radur a Threforgan | Rhiwbeina | Y Rhath | Sain Ffagan | Y Sblot | Tre-Biwt | Tredelerch | Treganna | Trelái | Trelluest | Tongwynlais | Trowbridge | Y Tyllgoed | Waunadda | Ystum Taf

Eginyn erthygl sydd uchod am Gaerdydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato