Jo Stevens

Oddi ar Wicipedia
Jo Stevens
AS
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru
Yn ei swydd
7 Hydref 2016 – 27 Ionawr 2017
Rhagflaenydd Paul Flynn
Olynydd Christina Rees
Cyfreithiwr Cyffredinol Cysgodol
Yn ei swydd
13 Ionawr 2016 – 6 Hydref 2016
Arweinydd Jeremy Corbyn
Aelod Seneddol
dros Canol Caerdydd
Yn ei swydd
Dechrau
7 Mai 2015
Rhagflaenydd Jenny Willott
Mwyafrif 4,981 (12.9%)
Manylion personol
Ganwyd (1966-09-06) 6 Medi 1966 (57 oed)
Abertawe, Cymru
Plaid wleidyddol Llafur
Alma mater Prifysgol Manceinion
Prifysgol Fetropolitan Manceinion
Gwefan jostevens.co.uk

Gwleidydd Llafur Cymreig yw Joanna Meriel "Jo" Stevens[1] (ganwyd 1966) sydd yn aelod o Dy'r Cyffredin. Fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol (AS) dros etholaeth Caerdydd Canolog yn etholiad cyffredinol Mai 2015.[2]

Bywyd cynnar a gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganwyd Stevens yn Abertawe a magwyd yn yr Wyddgrug, sir y Fflint. Mynychodd Ysgol Uwchradd Argoed ac Ysgol Uwchradd Elfed.[3]

Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Manceinion a cwblhaodd yr Arholiad Cyfreithwyr Proffesiynol yng ngholeg Polytechnig Manceinion yn 1989.[4]

Cyn dod yn aelod seneddol, roedd Stevens yn Gyfarwyddwr Trefniant a Phobl gyda Thompsons Solicitors.[3]

Aelod Seneddol[golygu | golygu cod]

Etholwyd Stevens fel Aelod Seneddol dros ganol Caerdydd, ar 7 Mai 2015 gyda mwyafrif o 4,981, gan guro y deiliad Democratiaid Rhyddfrydol, Jenny Willott.[2]

Yn ad-drefniant cabinet cysgodol Jeremy Corbyn yn Ionawr 2016 fe'i hapwyntiwyd yn cyfreithiwr cyffredinol cysgodol a gweinidog dros gyfiawnder cysgodol.

Yn ad-drefniant mis Hydref 2016 yn dilyn ail-ethol Jeremy Corbyn fel arweinydd y blaid daeth yn Ysgrifennydd Cymru cysgodol.[5] Ymddiswyddodd ar 27 Ionawr 2017 mewn protest am fod Corbyn yn gorfodi ASau Llafur i bleidleisio o blaid Erthygl 50.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]