Paul Flynn
Oddi ar Wicipedia
Mae Paul Philip Flynn (ganwyd 9 Chwefror 1935) yn Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, Plaid Lafur, ers 1987. Fe'i ganwyd yng Nghaerdydd ac roedd ei rieni o dras Cymreig a Gwyddelig. Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Sant Illtyd, ysgol Gatholig yng Nghaerdydd. Yn 1955 aeth i weithio fel fferyllydd yn y diwydiant dur tan 1983.
Ym mis Medi 2012 cafodd ei wahardd o siambr Tŷ'r Cyffredin am bum niwrnod wedi iddo gyhuddo'r Ysgrifennydd Amddiffyn Philip Hammond o ddweud celwydd am y sefyllfa filwrol yn Affganistan.[1]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gwahardd Paul Flynn o'r Senedd. BBC (18 Medi 2012). Adalwyd ar 19 Medi 2012.
Dolenni allanol [golygu]
Mae gan Wikiquote gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:
- (Saesneg) Gwefan swyddogol
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Mark Robinson |
Aelod Seneddol dros Orllewin Casnewydd 1987 – presennol |
Olynydd: deiliad |