Derec Llwyd Morgan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd Cymraeg a beirniad llenyddol yw Derec Llwyd Morgan (ganed 1943). Mae'n enedigol o bentref Cefn-bryn-brain, Sir Gaerfyrddin. Addysgwyd ef yng Ngholeg Prifysgol Bangor a Phrifysgol Rhydychen. Bu'n Athro’r Gymraeg ac yn bennaeth Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth hyd 1995, pan benodwyd ef yn Brifathro’r Coleg.

Mae ef hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Aelod o’r Cyngor cychwynnol.

Cyhoeddiadau[golygu]

  • Y Diwygiad Mawr (Gomer, 1999)
  • Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn (Gomer, 1991)
  • Pobl Pantycelyn (Gomer, 1986)
  • Gwna yn Llawen, Wr Ieuanc (Gomer, 1978)
Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.