Yr Arloeswr (cylchgrawn)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Yr Arloeswr (Cylchgrawn))
Neidio i: llywio, chwilio

Cylchgrawn llenyddol Cymraeg oedd Yr Arloeswr a gyhoeddwyd rhwng 1957 a 1960. Cyhoeddwyd Yr Arloeswr gan ei olygyddion, R. Gerallt Jones a Bedwyr Lewis Jones, gyda chyfraniadau gan gyfrannwyr megis Gwyn Thomas a Bobi Jones. Roedd yn cynnwys storïau byrion, cerddi ac adolygiadau llyfrau, ac weithiau waith celf.

Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido yn rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dolen allanol[golygu]

Flag of Wales 2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato