A498

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ffordd 24 km (15 milltir) o hyd ydy'r A498, rhwng Pen-y-Gwryd a Porthmadog.

Yr A498 yn rhan uchaf Nant Gwynant.

Ym Mhen-y-Gwryd, mae'r A4086, lôn Bwlch Llanberis yn troi i ffwrdd i'r gogledd. Mae'r A498 yn disgyn o gopa 277m (909 tr.) Pen-y-Gwryd ac yn rhedeg i'r de orllewin trwy Nant Gwynant a threy bentref Beddgelert a Bwlch Aberglaslyn, lle mae'n gorgyffwrdd yr A4085. Mae'r A498 yn teithio trwy Tremadog, lle mae'n gorgyffwrdd yr A487 am bellter byr cyn pasio odan bont sy'n dwyn Rheilffordd Arfordir Cambrian a gorffen ym Mhenamser ar yr A497, tua milltir i'r gorllewin o Borthmadog. Yn ei ben gogleddol, mae'r ffordd yn cysylltu trwy'r A4086 gyda'r A5 yng Nghapel Curig, gan ffurfio llwybr defnyddiol ar gyfer ymwelwyr i ardal Beddgelert a Porthmadog. Wrth y cyffyrdd, mae'r A4086 i Llanberis yn ffordd llai ym Mhen-y-Gwryd, tra mai'r A498 yw'r ffordd llai ym Meddgelert. Wrth Pont Aberglaslyn, mae'r A4085 yn ffordd llai sy'n dargyfeirio tuag at Penrhyndeudraeth ac yn Nhremadog, yr A498 yw'r briffordd. Mae'r cyffordd i'r gorllewin o Dremadog yn gylchfan ac ym Mhenamser, yr A498 yw'r ffordd llai unwaith eto.

Mae disgyniad serth yn Nant Gwynant, lle ceir tua 1¾ milltir yn ansawdd is-safonol, cul a throellog lle mae cerbydau mwy yn cael trafferth pasio. Mae adrannau eraill is-safonol rhwng Bwlch Aberglaslyn a thuag at Tremadog, caiff fysiau drafferth pasio yn y darnau hyn o'r ffordd. Mae'r ffordd yn mynd trwy Feddgelert ar ongl lym dros hen bont; ni argymellir hyn ar gyfer cerbydau cymalog. Ym Mwlch Aberglaslyn gellir gweld gwely trac Rheilffordd Ucheldir Cymru ar ochr arall Afon Glaslyn, sydd erbyn hyn yn cael ei ail-adeiladu. Yn ei phen gorllewinol mae'r llwybr yn croesi'r llinell a fwriadir ar gyfer ffordd osgoi A487 Porthmadog ar gylchfan Tremadog.

Hanes[golygu]

Ffurfwyd y ffordd o ffyrdd tolliau cynnar, roedd tipyn o welliant yn yr 1960au a'r 1970au yn Nant Gwynant i'r de o fwlch Aberglaslyn. I'r de o Gwesty'r Afr yn Beddgelert mae pont fwaog rheilffordd uwchben, gyda cyfyngiadau uchder a lled, a adeiladwyd gan gwmni Rheilffordd Portmadog, Beddgelert a De Eryri, ond ni ddefnyddwyd hi fyth.

Dolenni allanol[golygu]