Tinopolis

Oddi ar Wicipedia
Tinopolis
Math
busnes
Sefydlwyd1983
PencadlysLlanelli
Gwefanhttp://www.tinopolis.com/ Edit this on Wikidata

Cwmni teledu yw Tinopolis. Lleolir eu pencadlys yn Llanelli, Sir Gâr. Agenda oedd yr hen enw ar y cwmni. Ffurfiwyd y cwmni gwreiddiol yn yr 1980au i gynhyrchu'r rhaglen gylchgrawn Heno ar S4C. Bellach, mae grŵp Tinopolis wedi tyfu i fod yn un o gwmnïau teledu mwyaf Prydain [1]

Mae'n berchen ar is-gwmnïau Cymreig, gan gynnwys Fiction Factory a POP 1, a nifer o is-gwmnïau Prydeinig, megis Mentorn Media a Sunset + Vine. Mae gan y cwmni swyddfeydd yng Nghaerdydd, sef swyddfeydd Sunset + Vine Cymru a Fiction Factory, a swyddfa yn adeilad Galeri, Caernarfon. Mae swyddfeydd eraill gan y cwmni yn Llundain, Glasgow a Rhydychen.

Rhai o raglenni amlycaf y cwmni yng Nghymru yw Heno, Prynhawn Da, Ralïo ac Y Stiwdio Gefn sy'n cael eu cynhyrchu gan Tinopolis Cymru[2]. Mae'r cwmni Fiction Factory yn cynhyrchu cyfresi drama Y Gwyll a Gwaith/Cartref; mae eu cynyrchiadau o'r gorffennol yn cynnwys Caerdydd, Y Pris a Pen Talar[3]. Cwmnïau Tinopolis sydd hefyd yn gyfrifol am raglenni fel Question Time ar y BBC, darlledu'r Tour de France a rhaglenni chwaraeon Channel 5.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The superindies at a glance". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-18. Cyrchwyd 2015-07-28.
  2. Tinopolis Cymru
  3. Fiction Factory

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]