Santes Elen Luyddog

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Elen Luyddog)
Santes Elen Luyddog
Ganwyd340 Edit this on Wikidata
Erging Edit this on Wikidata
Bu farw420 Edit this on Wikidata
Caernarfon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl22 Mai Edit this on Wikidata
TadEudaf Hen Edit this on Wikidata
PriodMacsen Wledig Edit this on Wikidata
PlantPeblig, Flavius Victor, Anwn Dynod, Sevira ferch Macsen, Owain fab Macsen Wledig Edit this on Wikidata
Erthygl am Elen o Erging, priod Macsen Wledig yw hon; ceir erthygl arall ar yr Ymerodres Helena o Gaergystennin (250-330) mam yr Ymerawdwr Cystennin.

Santes oedd Elen o Erging, neu Elen Luyddog (Elen y Lluoedd) ac weithiau "Elen o Segontiwm" (Caernarfon) a oedd yn byw yn niwedd y 4g.

Blynnyddoedd Cynnar[golygu | golygu cod]

Roedd Elen yn ferch i Eudaf (Lladin: Octavius) pennaeth ar diroedd Erging (gorllewin Sir Henffordd)[1] Pan oedd hi'n ifanc dechreuodd y Pictiaid a'r Gwyddelod ymosod ar ogledd-orllewin Cymru ac aeth Eudaf, gyda'i feibion a'i ferch i gynorthwyo'r lluoedd Rhufeinig oedd yn amddiffyn Segontiwm. Yno cyfarfu Elen â Macsen Wledig, un o'r arweinyddion Rhufeinig ym Mhrydain.[2]. Priododd Elen a Macsen; roedd y ddau'n Gristnogion.

Chwedl yn y Mabinogion[golygu | golygu cod]

Llinellau agoriadol o chwedl Breuddwyd Macsen Wledig mewn llawysgrif yn Llyfr Coch Hergest

Yn y chwedl Breuddwyd Macsen Wledig a ddatblygodd yn yr Oesoedd Canol, dywedir fod Macsen Wledig yn breuddwydio ei fod yn teithio i ogledd-orllewin Ynys Brydain, lle mae'n gweld caer ysblennydd wrth aber gyda mynyddoedd gwyllt a choed y tu ôl iddi ac ynys ffrwythlon gyferbyn. Aiff i mewn i neuadd y gaer a gweld gweision yn chwarae gwyddbwyll a'r forwyn 'decaf erioed' yn eistedd ar 'orsedd orwych'. Mae hi'n codi ac yn dod ato ac mae'n rhoi ei freichiau am ei gwddw. Wrth iddo eistedd gyda hi ar yr orsedd ac ymserchu ynddi, mae twrw'r tariannau'n ymysgwyd yn y gwynt yn ei ddeffro ac mae'r weledigaeth yn diflannu. Mae Macsen yn anfon negeseuwyr allan i bedair ban byd i chwilio am y ferch yn y freuddwyd, ac yn y diwedd maent yn darganfod y gaer a'r forwyn. Maent yn gofyn i'r forwyn briodi Macsen, ond yn y chwedl, mae hi'n gwrthod oni bai'r ymerawdwr ei hun yn dod i'w cheisio. A dyna a wna Macsen a'i wŷr. Glaniant ym Mhrydain a goresgyn yr ynys gan yrru Beli fab Manogan a'i wŷr ar ffo. Elen yw'r ferch ac mae hi'n aros gyda'i thad Eudaf a'i brodyr Cynan Meiriadog ac Adeon yng Nghaer Seint yn Arfon (Segontium) yn rhan o'r amddifynniad yn erbyn ymosodiadau o'r gogledd. Mae'n chwedl sy'n cadarnhau fod Elen a Macsen wedi cwrdd yng Nghaernarfon.

Macsen[golygu | golygu cod]

Daeth Macsen yn llywodraethwr Rhufeinig ym Mhrydain a pan etholwyd Macsen yn Ymerawdwr gan ei filwyr gadewodd ef ac Elen Ynys Prydain yn y flwyddyn 383. Ar eu taith tua Rhufain cwrddasant â Martin o Tours ac yn ymddiddori yn y syniadau newydd o Gristnogaeth a daeth o'r Aifft.. Mae Macsen wedi rhoi gwarchae o gwmpas dinas Rhufain gyda brodyr Elen a chriw o ryfelwyr Arfon. Collodd Macsen frwydr yn yr Eidal a dienyddiwyd ef yn 388.[2] Ar ôl cyfnod o grwydro, cyraeddodd y milwyr oedd wedi teithio gyda Macsen, i Lydaw Dychwelodd hanner y llu i Gymru gydag Adeon ac arhosodd y lleill yn Llydaw dan Cynan. Trowyd y hanes hwn yn chwedl dros gyfnod. Cyfeirir at y traddodiad mewn un o'r Trioedd fel un o'r "Tri Chyfor a aeth o'r ynys hon, ac ni ddaeth drachefn yr un onadunt".[3]

Ffenigl Elen Luyddog (Heracleum mantegazzianum) a enwyd ar ôl Elen.

Y Weddw yn Dychweled[golygu | golygu cod]

Erbyn hyn bu gan Elen nifer o blant gan gynnwys tri mab Cystennin (neu Gastyn), Owain a Pheblig a ferch, Sefira.[4] Dychwelsont i Gymru gan aros gyda'i chyfaill Martin o Tours yn Gâl ar y ffordd adref. Ar ô dychweled cysylltodd â'i theulu yn ne-dwyrain Cymru a teuluoedd pennaethiad eraill oedd wedi cadw at y ffydd Cristnogol gan rannu y syniadau newydd o fywyd Cristnogol syml mewn cymunedau a dysgodd gan Martin o Tours.[5] Dylanwadodd ei theulu yn arbennig ar deulu pwysig cyfagos; sef tylwyth Brychan.[6] Bu'r teulu hwn yn Cristnogion â gadwodd y ffydd er fod lluoedd Rhufain yn cael eu tynnu o Ynys Prydain. Dechrauodd y syniadau a fuasai'n Cristnogaeth Geltaidd datblygu yn Erging a dwyrain Brycheiniog.[2] Ymwelodd un o disgyblion Martin a De-ddwyrain Cymru yn 396 gan annog Elen a'i thylwyth i datblygu eu syniadau newydd. Bu Elen hefyd yn ddylanwad pwysig pan sefydlodd Dyfrig (oedd yn perthyn i'r ddau lwyth) fel esgob Henffordd.

Dylanwad Elen[golygu | golygu cod]

Cysylltir Elen yn bennaf gyda de-ddwyrain Cymru a bu ei dylanwad hi'n fawr iawn yno, ond teithiodd lawer a gelwir sawl darn o'r hen ffyrdd Rhufeinig yn 'Sarn Elen'. Mae bron deugain eglwys wedi'u cysegru i aelodau o'i theulu gan gynnwys Llanbeblig ger Caernafon, Llangystennin ger Colwyn, a dwy eglwys, Llanelen, ym Mhenfro, ond mae'r mwyafrif yn ne-dwyrain Cymru. Un o'r pwysicaf oedd Llangastyn ger Llangors a Talgarth ble bu Gastyn, mab Elen, yn athro i nifer o blant Brychan Brycheiniog.[6] Merch Elen, Sefira, oedd wraig cyntaf Gwrtheyrn, ac yn fam i Gwrthyfer,a wrthwynebodd penderfyniad ei dad i fod yn gyfeillgar gyda'r newydd-ddyfodiad Eingl-Sacsoniaid ar ôl iddo briodi Rowena.

Bu Elen yn un o'r ychydig saint a gofnodir mewn dogfennau cyfoes a bu hithau a'i thylwyth y cynharaf o'r llwythau dylanwadol a gweithgar yn Oes y Seintiau.[7] Heb ei dylanwad y mae'n debygol y buasai Cymru wedi troi yn ôl at baganiaeth fel gwnaeth de-ddwyrain Ynys Prydain.[7]

Oriel[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun Santesau Celtaidd 388-680

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Brereton, T.D, 2000, The Book of Welsh Saints, Gyndwr Publishing
  2. 2.0 2.1 2.2 Davies, J. Hanes Cymru, 1990, Penguin
  3. Rachel Bromwich, Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1964; arg. newydd 1991), Triawd 35.
  4. Chadwick, N. 1960, The Age of Saints in the Early Celtic Church, Llanerch
  5. Fraser, D. 1966 Y Goresgynwyr, Gwasg Prifysgol Cymru
  6. 6.0 6.1 Jones,T.T. 1977, The Daughters of Brychan, (cylchgrawn) Brycheiniog Cyf. XVII
  7. 7.0 7.1 Bowen, E.G.1956, The Settlements of the Celtic Saints, Gwasg Prifysgol Cymru