Llanbeblig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Llanbeblig - y Gofgolofn

Plwyf a maesdref ar gyrion Caernarfon, Gwynedd, yw Llanbeblig. Gorwedd ar lannau afon Seiont ac mae'r plwyf, a fu'n rhan o gwmwd Arfon Is Gwyrfai yn yr Oesoedd Canol, yn cynnwys yn ei ffiniau caer Rufeinig Segontium.

Eglwys Llanbeblig[golygu]

Mae eglwys Llanbeblig, ger y gaer, yn perthyn i ddiwedd y cyfnod Rhufeinig. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu gan Peblig (Lladin, Publicius), un o feibion Macsen Wledig, a gysylltir ag Elen Luyddog ferch Eudaf a Chaernarfon yn y chwedl Cymraeg Canol Breuddwyd Macsen Wledig. Yn ôl traddodiad, cafodd Macsen ei gladdu yn eglwys Llanbeblig, ond gwyddys iddo farw yn yr Eidal yn 388 OC.

Cafodd yr adeilad cynnar ei newid yn sylweddol ar ôl i Gaernarfon ddod yn fwrdeisdref (Seisnig i ddechrau) ar ôl goresgyniad Gwynedd yn 1282-83. Mae'r darnau cynharaf o'r muriau presennol yn dyddio i'r 14eg ganrif gydag ychwanegiadau yn y 15fed a'r 16eg ganrif. Yng Nghapel Faenol yn yr eglwys ceir ffenestr odidog o'r 14eg ganrif. Mae'r tŵr trawiadol yn dyddio i'r 16eg ganrif. Yn yr Oesoedd Canol yr oedd sgrîn Grog yr eglwys yn bur adnabyddus a cheir cerdd o'r cyfnod yn ei disgrifio. Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif cafwyd hyd i feddfaen Rhufeinig dan y mur deheuol.

Cyfeiriadau[golygu]

  • H. Hughes & H. L. North, The Old Churches of Snowdonia (1924; adargraffiad ffacsimili, Capel Curig 1984)

Gweler hefyd[golygu]