Ffenigl Elen Luyddog

Oddi ar Wicipedia
Meum athamanticum
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Apiales
Teulu: Apiaceae
Genws: Meum
Rhywogaeth: M. athamanticum
Enw deuenwol
Meum athamanticum
Jacq.

Planhigyn blodeuol ydy Ffenigl Elen Luyddog sy'n enw gwrywaidd ac a enwyd ar ôl y Santes Helen Luyddog. Mae'n perthyn i'r teulu Apiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Meum athamanticum a'r enw Saesneg yw Spignel. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys 'Amranwen Helen Lueddog'.

Mae'n blanhigyn lluosflwydd sy'n eithaf prin ym Mhrydain, er ei fod i'w gael yng Ngogledd Cymru, de Lloegr a'r Alban ble roedd ei wraidd yn cael ei fwyta fel llysieuyn.

Saif ei ddail pluog gyferbyn a'i gilydd ac mae gan y blodyn 5 petal.

Ffrwyth a hadau

Arferid bwyta ei ddail, fel meddyginiaeth ar gyfer y misglwyf ac anhwylderau eraill.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: