Gwyddbwyll
Gêm i ddau sy'n cael ei chwarae ar fwrdd 8×8 o sgwariau gwyn a du yw gwyddbwyll. Nod Gwyddbwyll yw gosod Brenin dy wrthwynebydd mewn Siachmat. Ystyr Siachmat yw pan fod y Brenin yn methu osgoi cael ei gipio (neu ei ladd) y symudiad nesaf. Mae'n gêm resymegol a thactegol ddwfn iawn, cymaint felly fel bod rhai yn disgrifio chwarae gwyddbwyll yn wyddoniaeth ac yn gelfyddyd. Mae tarddiad y gêm mwy na thebyg yn India neu China hynafol, ac fe ledaenodd trwy Iran i Ewrop.
Cynnwys |
Strwythur [golygu]
Mae'r darnau'n cael eu gosod ar y bwrdd fel yn y llun, gyda'r Frenhines ar ei lliw ei hun - hynny yw Brenhines ddu ar sgwâr du, Brenhines wen ar sgwâr gwyn. Gwyn sy'n symud gyntaf, ac mae'r chwaraewyr yn symud am yn ail tan fod naill ai Siachmat, neu chwaraewr yn ildio, neu'r ddau yn cytuno i gêm gyfartal, neu'r gêm yn gorffen fel Methmat.
Defnyddir nodiant algebraidd yn y gêm fodern i ddynodi sgwâr, ee. symud gwerinwr i sgwâr e4 = e4, symud Marchog i sgwâr e4 = Me4. Mae'r nodiant yn dibynnu ar yr iaith a ddefnyddir, e.e. buasai'r un symudiad yn ei nodi fel Ne4 gyda thalfyriadau seiliedig ar enwau Saesneg (N = "knight" yn yr achos hwn, gan ddefnyddir K am "king"), ond mae nodiant yn bodoli gyda symbolau hefyd, e.e. ♞e4 (ond nid yw'r symbolau'n ymddangos yn gywir ym mhob porwr gwe). Gyda phob iaith, defnyddir yr wyddor Ladin a'r rhifau Arabaidd i enwi'r colofnau a rhesau; er enghraifft ni ddefnyddir y llythrennau "ch", "dd", a.y.y.b. yn Gymraeg.
Mae pob darn gwyddbwyll yn medru symud mewn ffordd wahanol, ac mae gan bob darn werth arbennig wrth chwarae, gan ddechrau gyda'r gwerinwr lleiaf pwerus. Mae darnau pob chwaraewr fel a ganlyn:
- 1 Teyrn (neu Brenin) (T) (Amhrisiadwy, ond tua 4 pwynt wrth chwarae)
- 1 Brenhines (B) (9 pwynt)
- 2 Castell (C) (5 pwynt)
- 2 Esgob (E) (3+ pwynt)
- 2 Marchog (M) (3 phwynt)
- 8 Gwerinwr (1 pwynt)
Wedi dysgu sut i symud y darnau mae chwaraewyr gwyddbwyll yn mynd ati astudio
Mae gwyddbwyll yng Nghymru yn cael ei reoli gan Undeb Gwyddbwyll Cymru.
Gwyddbwyll Geltaidd [golygu]
Defnyddid y gair "Gwyddbwyll" ( Gwezboell yn y Llydaweg, Fidchell yn y Wyddeleg) yn y Gymraeg cyn i'r gêm bresennol ddod i Gymru (yn y Mabinogi er enghraifft). Cyfeirio at gêm arall â tharddiad Celtaidd iddi yr oeddid yn y llawysgrifau. Heddiw ceir gemau a elwir "gwyddbwyll Geltaidd" sy'n seiliedig ar yr ychydig wybodaeth sydd wedi goroesi ynglŷn â'r gêm Fidchell o Iwerddon a'r gêm tawlbwrdd o Gymru. Mae'r rheolau yn hanu o gemau Tafl y Germaniaid.
Yn wahanol i'r wyddbwyll fodern gonfensiynol, mae gwyddbwyll Geltaidd yn gwrthwynebu dau lu anghyfartal a chanddynt ddau amcan gwahanol. Mae'r brenin yn cael ei warchae yn ei gastell canolog, wedi ei amddiffyn gan wyth tywysog. Gyda chymorth y tywysogion mae'n ceisio dianc y gelynion trwy gyrraedd un o'r bedair cornel. Mae yna 16 o elynion, mewn pedwar grŵp o bedwar. Maen nhw'n ceisio dal y brenin trwy ei flocio a rhwystro ei symudiadau.
Disgrifiad o Dawlbwrdd [golygu]
Cofnododd Robert ap Ifan yn 1587 ddisgrifiad (a llun) o'r gêm, gan ddweud ei fod yn cael ei chwarae ar fwrdd 11×11 gyda 12 darn ar ochr y brenin a 24 ar ochr y gwrthwynebydd. Dyma'r hyn a sgwennodd:[1]
The tawlbwrdd should be played with a king in the centre and twelve men in the places next to him, and twenty-four men seek to capture him. These are placed, six in the centre of each side of the board and in the six central positions. And two move the men in the game, and if one [piece] belonging to the king comes between the attackers, he is dead and is thrown out of the game, and the same if one of the attackers comes between two of the king’s men in the same manner. And if the king himself comes between two of the attackers, and if you say ‘Watch your king’ before he moves to that space, and he is unable to escape, you capture him. If the other says ‘I am your liegeman’ and goes between two, there is no harm. If the king can go along the... line, that side wins the game.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Ifan, Robert ap (1587). Y Llyfrgell Genedlaethol, MS 158. Dyfynnwyd yn llyfr Murray, H. J. R. (1951). A History of Board-Games Other than Chess. Gwasg Rhydychen. ISBN 0-19-827401-7. 1951, tud.63.
Darllen pellach [golygu]
- Hooper, David a Whyld, Kenneth. The Oxford Companion to Chess (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1984).
Dolenni allanol [golygu]
- gwyddbwyll.com Gwefan gwyddbwyll Cymraeg â rhyw 100 o chwaraewyr
- www.gemaugwyddbwyll.com Gwefan â miloedd o gêmau Gwyddbwyll gyda nodiant Cymraeg]
