Eudaf Hen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Yn ôl traddodiad, un o frenhinoedd cynnar y Brythoniaid yng nghyfnod y Rhufeiniaid oedd Eudaf neu Eudaf Hen. Ceir gwahanol draddodiadau amdano sy'n anodd cysoni â'i gilydd. Does dim tystiolaeth hanesyddol o gwbl i ategu'r traddodiadau hynny.

Yn y fersiynau Cymraeg Canol o'r ffug-hanes enwog Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy ceir chwedl "Eudaf, Iarll Ewias ac Ergyng" yn ne-ddwyrain Cymru. "Octavius Dug Wessex" a geir yn y testun Lladin gwreiddiol, ond Eudaf sydd yn y testunau Cymraeg fel Brut Dingestow. Mae'r brut yn honni ei fod yn un o ddisgynyddion Caradog, arweinydd y Silwriaid yn erbyn y Rhufeiniaid. Yn ôl Sieffre, cododd Eudaf/Octavius mewn gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid ar ôl ymadawiad Cystennin am Rufain a daeth yn "Uchel Frenin Ynys Prydain" ar ôl curo Trahaearn, brawd Coel Hen. Dywedir iddo deyrnasu am gyfnod hir, gan ennill i'w hun yr enw 'Eudaf Hen'.[1]

Cyfeirir at Eudaf yn y chwedl Cymraeg Canol Breuddwyd Macsen Wledig. Yno mae'n dad i Elen Luyddog, gwraig Macsen Wledig (mae traddodiadau eraill yn gwneud Elen yn ferch i Goel Hen o'r Hen Ogledd) ac yn byw yn ardal Segontiwm yn Arfon, Gwynedd. Yn ôl y Breuddwyd, mae Cynan Meiriadog yn fab iddo ac felly'n chwaer i Elen.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Henry Lewis (gol.). Brut Dingestow (Caerdydd, 1942), tud. 228-30.
  2. Ifor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor, 1920), tud. 24.