Traphont Pontcysyllte

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Dyfrbont Pont-Cysyllte)
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Dyfrdwy yn llifo dan y draphont
Y draphont

Mae Pontcysyllte yn draphont i gychod, sy'n dwyn Camlas Llangollen dros ddyffryn Afon Dyfrdwy rhwng pentrefi Trefor a Froncysyllte, i'r dwyrain o Langollen. Cwblhawyd adeiladu'r bont yn 1805, ond hyd heddiw, hon yw'r draphont ddwr hiraf ac uchaf ym Mhrydain, ac mae'n adeiladwaith sydd wedi ei restru ar Raddfa I Adeiladau Rhestredig.[1] Yn ogystal mae'n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd Cymru.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Adeiladwyd y ddyfrbont gan Thomas Telford a William Jessop, mae'n 1,007 troedfedd o hyd, 11 troedfedd o led a 5 troedfedd 3 modfedd o ddyfnder. Mae wedi ei wneud o gafn haearn bwrw wedi ei ddal 126 troedfedd uwchben yr afon gan 19 colofn o waith maen gwag. Mae gan bob bwa rychwant o 53 troedfedd. Roedd llawer yn amheus o'r adeiladwaith, ond roedd Telford yn hyderus: roedd wedi adeiladu o leiaf un draphont i'r cynllun hwn ynghynt (sef Traphont Longdon-on-Tern) ar Gamlas Amwythig, sydd yn dal i'w gweld yno heddiw yng nghanol cae, er y gadawyd y gamlas flynyddoedd yn ôl.

Mae'r cymrwd a ddefnyddwyd i'w hadeiladu yn cynnwys calch, dŵr a gwaed ych. Cynhyrchwyd y taflau haearn yn Ffowndri Plas Kynaston, a thaflwyd pob uniad cynffonnog i fewn i'r nesaf. I galchu'r cymalau, defnyddwyd gwlân Cymreig wedi ei drochi mewn siwgr berwedig, ac wedyn eu selio â phlwm. Gadawyd ef am chwe mis i gadarnhau ei fod yn dal dŵr cyn cael ei ddefnyddio.

Yn rhan o gamlas a elwid yn wreiddiol yn Camlas Ellesmere, roedd yn un o'r campweithiau peirianneg sifil cyntaf a gyflawnwyd gan y peiriannwr sifil enwog Thomas Telford (dan oruchwyliaeth y peiriannwr camlesi mwy profiadol, William Jessop). Cyflenwyd yr haearn gan William Hazeldine o'i ffowndri yn Amwythig a gerllaw yng Nghefn Mawr. Agorwyd y ddyfrbont ar 26 Tachwedd 1805, ar ôl cymryd tua deng mlynedd a £47,000 i'w dylunio a'i hadeiladu.

Traphont Pontcysyllte Sir Wrecsam 03.JPG

Mae'r llwybr halio wedi ei gydbwyso dros y cafn, sydd yr un lled â'r draphont i alluogi i gychod cul symud yn fwy rhydd dros y dŵr. Mae rheiliau i warchod cerddwyr ar ochr allanol y llwybr, ond ni ddefnyddiwyd y tyllau ar gyfer rheiliau ar ochr arall y llwybr. Gan mai dim ond chwe modfedd uwchben y dŵr y mae ymyl y cafn, a'i fod felly o dan fwrdd y cychod, does dim byd rhwng gyrrwr y cwch a chwymp anferthol i waelod y dyffryn.

Roedd handlen hygyrch yn arfer bod mewn cwt ar y llwybr troed yng nghanol y bwa canolog; wrth dynnu'r handlen hon achosid i ddŵr dasgu i lawr i'r afon islaw. Gwelir y tasgiad o hyd bob cwpl o flynyddoedd pan wagir y draphont er mwynt ei chynnal.

Statws[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynigiwyd y draphont fel cystadleuydd ar gyfer statws Safle Treftadaeth y Byd yn 2005, ar ei dau ganmlwyddiant,[2] ac fe'i henwebwyd yn swyddogol yn 2006.[3] Ar 28 Mehefin 2009 rhoddwyd statws Safle Treftadaeth y Byd i'r bont gan bwyllgor UNESCO ym Madrid.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]