Corn Affrica

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwledydd Corn Affrica
Corn Affrica fel gwelwyd o Wennol Ofod NASA ym Mai 1993. Mae'r lliwiau oren a melyn yn y ddelwedd hon yn dynodi hinsawdd gras a lletgras.
Gweler hefyd Penrhyn (gwahaniaethu).

Mae Corn Affrica neu Benrhyn Somalia yn benrhyn yn Nwyrain Affrica sy'n ymwthio allan am gannoedd o gilomedrau i fewn i Fôr Arabia, ac mae'n gorwedd ar hyd ochr ddeheuol Gwlff Aden. Hi yw'r allaniad mwyaf dwyreiniol cyfandir yr Affrig.

Mae'r term hefyd yn golygu'r rhanbarth mwy sy'n cynnwys gwledydd Djibouti, Ethiopia, Eritrea a Somalia.[1][2] Fel y cyfryw, mae'r ardal yn tua 2,000,000 km² efo rhyw 86.5 miliwn o bobl.

Daearyddiaeth a hinsawdd[golygu]

Mae Corn Affrica yn ardal sych sydd bron yn gytbell o'r cyhydedd a Throfan Cancr.

Ystyrir Socotra, ynys fach ger arfordir Somalia sydd yng Nghefnfor India, fel rhan o Affrica. Mae'n 3600 km². Mae'n diriogaeth o Iemen, gwlad mwyaf deheuol Arabia.

Hanes[golygu]

Hanes modern[golygu]

Mae Corn Affrica yn rhanbarth sydd yn dioddef o newyn, rhyfel, sychder a thrychinebau naturiol yn aml. Rhwng 1982 a 1992 bu farw tua dwy filiwn o bobl fel canlyniad o ryfel a newyn. Yn ddiweddar mae argyfwng bwyd wedi difrodi'r rhanbarth.

Ers 2002 mae'r ardal wedi bod o dan sylw'r Unol Daleithiau, Ffrainc, yr Almaen, ac un ar ddeg o wledydd Affricanaidd ynghylch y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth.

Economi[golygu]

Mae gwledydd y rhanbarth yn dibynnu ar rai allforion allweddol:

Ecoleg[golygu]

Sebra Grevy (Equus grevyi)

Mae Corn Affrica yn dioddef o orbori ac mae dim ond 5% o'i gynefin gwreiddiol yn aros. Bygythiad mawr arall ar Socotra yw datblygiad isadeiledd.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Michael Hodd, East Africa Handbook, 7th Edition, (Passport Books: 2002), p. 21
  2. Encyclopaedia Britannica, inc, Jacob E. Safra, The New Encyclopaedia Britannica, (Encyclopaedia Britannica: 2002), p.61