Homo erectus
| Homo erectus | |
|---|---|
| Dyn Tautavel | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Primates |
| Teulu: | Hominidae |
| Genws: | Homo |
| Rhywogaeth: | H. eretus |
| Enw deuenwol | |
| Homo erectus Dubois, 1892 |
|
| Cyfystyron | |
|
Pithecanthropus erectus |
|
Roedd Homo erectus ("Dyn cefnsyth"), gynt Pithecanthropus erectus, yn rhywogaeth o'r genws Homo oedd yn byw rhwng 1.9 miliwn ac 400,000 o flynyddoedd yn ôl.
Cafwyd hyd i'r ffosilau cyntaf o'r rhywogaeth yma gan Eugène Dubois o'r Iseldiroedd ar ynys Jawa yn 1890. Adnabyddir yr enghraifft yma fel "Dyn Jawa". Yn 1927, cafwyd hyd i fwy o ffosilau yn Zhoukoudian yn Tsieina. Yn ddiweddarach, cafwyd hyd i lawer o'r ffosilau hyn yn Affrica, er enghraifft un yn Ternifine, Algeria, gweddillion a ddyddir i rhwng 600,000 a 700,000 o flynyddoedd yn ôl. Cafwyd hyd i rai yn Nwyrain Affrica sydd tua 1 miliwn o flynyddoedd oed.
Ystyrir i Homo erectus ddatblygu yn Affrica, ac yna ymledaenu i Asia, y rhywogaeth gyntaf o Homo i adael Affrica.