Ynys Victoria (Canada)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ynys Victoria

Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Victoria. Gydag arwynebedd o 217,291 km², hi yw ynys ail-fwyaf Canada a'r nawfed o ran maint ymhlith ynysoedd y byd. Mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 1,875.

Yn weinyddol, rhennir yr ynys rhwng Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin a Nunavut. Enwyd yr ynys ar ôl Victoria, brenhines y Deyrnas Unedig.