Nunavut

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Nunavut yng Nghanada
Inuit yn Arviat

Mae Nunavut yn diriogaeth Arctig yng ngogledd Canada, gyferbyn â Greenland. Mae nifer o'r bobl sy'n byw yno yn bobl Inuit.

Ers refferendwm yn 1995, Iqaluit ("Frobisher Bay" gynt) ar Ynys Baffin, yw'r brifddinas. Mae cymunedau eraill yn cynnwys canolfannau rhanbarthol Cilfach Rankin a Bae Cambridge. Mae Nunavut yn cynnwys hefyd Ynys Ellesmere i'r gogledd, yn ogystal â rhannau dwyreiniol a denheuol Ynys Victoria yn y gorllewin. Nunavut yw'r mwyaf o daleithiau a thiriogaethau Canada ond gyda'r boblogaeth leiaf o lawer, gyda dim ond 29,474 o bobl mewn ardal o faint Gorllewin Ewrop. Mae'r dwysedd poblogaeth ymhlith yr isaf yn y byd. Mae gan hyd yn oed Greenland, sydd o'r un faint daearyddol, ddwywaith poblogaeth Nunavut.

Ystyr Nunavut yn yr iaith Inuktitut, yw 'Ein Tir Ni'. Gelwir y trigiolion yn Nunavummiut (unigol: Nunavummiuq). Ynghyd â'r iaith Inuktitut, mae'r Inuinnaqtun, Saesneg a Ffrangeg yn ieithoedd swyddogol.


Taleithiau a thiriogaethau Canada Baner Canada
Taleithiau: Alberta | British Columbia | Manitoba | New Brunswick | Nova Scotia | Ontario | Québec
Saskatchewan | Prince Edward Island | Newfoundland a Labrador
Tiriogaethau: Nunavut | Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin | Yukon
Flag of Canada.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ganada. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato