Sgwrs:Ynys

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae sylw diddorol ar y tudalen Saesneg 'Ynysybwl: Sgwrs'. "Can someone explain why the definition of "ynys" is given here as "water-meadow" when every Welsh speaker (and text) I know of confirms it means "island"? Ond rydw i'n gwybod llawer o enghreifftiau o enwau lleol: e.e. Ynyshir, Ynysboeth, Ynysowen, Ynysddu. Mae'r erthygl yn Wikipedia (Saesneg) 'Ynyshir' yn rhoi'r cyfieithiad 'long river meadow' am yr enw, gyda'r cyfeiriad 'Y Geiriadur Mawr, Gwasg Gomer 1958'. Pam dydy'r ystyr hwn yn cael ei sôn yn yr erthygl hon? Mae'r 'National Gazetteer of Wales - place name index' yn rhoi tua ugain enghreifftiau o enwau lleol gyda'r elfen 'ynys' yn yr ystyr 'gwaun ar hyd afon'. Mae llawer eraill yng Ghwm Taf (Parc Ynysangharad ym Mhontypridd, Ynysmeurig yn Abercynon, Ynyscaedudwd ger Cilfynydd, Heol Ynyslyn yn Y Draenen Wen). Ond maen nhw'n i gyd yn Sir Morgannwg, neu Gwent. Ydy'r ystyr yn goroesiad o'r tafodiaeth Morgannwg (Y Wenhwyseg?)? Esgusodwch fy Nghymraeg, rydw i wedi dysgu'r iaith llawer o flynyddoedd yn ôl yn yr ysgol, ac rydw i wedi byw yn Lloegr byth er.Ntmr (sgwrs) 23:35, 25 Gorffennaf 2014 (UTC)[ateb]

Rwyt ti'n iawn, mae mwy nag un ystyr i'r gair 'ynys' er mai "island" yw'r prif ystyr, wrth gwrs. Ond yn hanesyddol ac mewn rhai enwau lleoedd ceir ystyron eraill fel yr un rwyt ti'n nodi (hefyd 'tir' neu 'ddarn o dir'). Mae'n rhy hwyr heno, ond mae angen adran 'Ystyron eraill' yn yr erthygl: cofiwch mae croeso i ti wneud hynny hefyd! Anatiomaros (sgwrs) 01:06, 26 Gorffennaf 2014 (UTC)[ateb]